Blog Fideo ar gyfer Plant, Pobl Ifanc ac Ysgolion
Ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2022, rydym wedi recordio blog fideo yn edrych ar barch a pherthnasoedd ar-lein.
Mae’n Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ar yr 8 Chwefror 2022, a’r thema yw ‘Archwilio i barch a pherthnasau ar-lein’.
Mae’r diwrnod yn rhoi cyfle inni siarad am y ffordd ry’n ni’n defnyddio ein technoleg yn gyfrifol. Mae gan bawb ohonom ran i’w chwarae wrth greu rhyngrwyd mwy diogel a dangos parch at eraill ar-lein.
Eleni eto mi fydd ein Swyddogion Heddlu Ysgolion yn cefnogi ysgolion ledled Cymru drwy gyflwyno gwersi a gwasanethau perthnasol. Yn ogystal, rydym wedi paratoi cyflwyniadau dwyieithog ar y thema dan sylw, gan ddefnyddio adnoddau o Ddiwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel 2022 | Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel.
Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau eu defnyddio.
Diolch i’n partneriaid yn yr Adrannau Seiberddiogelwch yn Heddlu Dyfed-Powys a Gogledd Cymru ac i’r Unedau Cynhyrchu Cyfryngau yn Heddlu Dyfed-Powys a De Cymru am eu cefnogaeth wrth baratoi‘r adnoddau yma.
Ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2022, rydym wedi recordio blog fideo yn edrych ar barch a pherthnasoedd ar-lein.
Mae Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU wedi creu pecynnau addysg i gefnogi ysgolion sy'n bwriadu cymryd rhan a chynnal gweithgareddau ar Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2022. Defnyddiwch y cynnwys isod i weld y gwahanol becynnau.
Gall rhieni a’r rhai sy’n gofalu am blant edrych ar ein cynghorion cyflym. Bydd neges gan ein swyddogion yn cael ei dosbarthu ar y cyfryngau cymdeithasol bob dydd o’r wythnos ar gyfer Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel.
Mae ein taflen cyflym am Cynnwys Firaol a Heriau Ar-lein Niweidiol ar gyfer rhieni, gofalwyr ac athrawon fel ei gilydd.
Ceir dau gyflwyniad, un ar gyfer plant 7–11 oed ac un ar gyfer pobl ifanc 11–16 oed gyda gweithgareddau.