Beth yw’r Rhaglen Ysgolion Heddlu Cymru?
Mae Rhaglen Ysgolion Heddlu Cymru yn gydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru a Heddlu Dyfed-Powys, Gwent, Gogledd Cymru a De Cymru. Mae gan bob Ysgol yng Nghymru Swyddog Heddlu Ysgolion sy’n gweithredu fel pwynt cyswllt penodol. Mae SHY yn cyflwyno cwricwlwm o wersi dwyieithog i blant 5-16 oed, sydd wedi cael eu datblygu gan athrawon. Rydym yn ymgysylltu â phob ysgol, gan gynnwys addysg prif ffrwd, ysgolion annibynnol yng Nghymru, ysgolion sy'n cefnogi anghenion dysgu ychwanegol a darpariaeth amgen gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion ac addysg heblaw yn yr ysgol.
Cewch wybodaeth yma am ein adnoddau sydd ar gael i athrawon i adeiladu ar yr hyn mae’r swyddogion yn ei drafod yn y gwersi. Rydym hefyd yn cynhyrchu amrywiaeth o ddeunyddiau yn ein hadran partneriaeth.
Ein Polisïau a Chanllawiau
Mae’r Protocol Trechu Troseddau Ysgolion yn bolisi sydd wedi ei gytuno gan bedwar llu Heddlu Cymru ar gyfer ymateb i adroddiadau o ddigwyddiadau mewn ysgolion, a chefnogi a chynghori ysgolion ar faterion diogelu. Mae'n gosod nodau'r Swyddog Heddlu Ysgolion, ein harferion adferol, pa fathau o ddigwyddiadau y gellir delio â nhw ar dir yr ysgol a sut rydym yn gweithredu polisi'r Swyddfa Gartref ar gyfer ymdrin â throseddau difrifol.