A wyddech chi?
1. Ar ôl cyfweld mwy na 12,000 o bobl ifanc ( 15-24 ) ym 2011, darganfu arolwg Ewropeaidd ar agweddau ieuenctid, fod bron i 10 % o bobl ifanc Prydain wedi defnyddio ' sylweddau seicoweithredol ar ryw adeg.
2 . Cynyddodd y nifer o sylweddau seicoweithredol newydd i 51 %, o 166 ar ddiwedd 2009 i 251 erbyn canol - 2012.
3 . Mae tua 75,000 o ddioddefwyr cam-drin domestig yng Nghymru .
4 . Mewn 90 % o ddigwyddiadau cam-drin domestig mae plentyn yn bresennol neu mewn ystafell gyfagos .
5 . Gwelwyd cynnydd o 16 % yn 2012-13 yn y nifer o adroddiadau i'r Heddlu am gam-drin rhywiol mewn plant dan 11 oed.
6 . Mae dros 1/3 o blant 3- 4 oed yn mynd ar-lein yn y DU ( 2012).
7 . Mae plant dan 4oed yn fwy tebygol o wylio clipiau fideo tra bod rhai dros 4 yn dangos diddordeb cynyddol mewn chwarae gemau.
8 . Gwelwyd cynnydd mewn mynediad i fyd rhithiol, yn enwedig gyda phlant rhwng 3 ac 11 oed.
9 . Mae 64 % o blant y DU yn defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol.
10 . Cynnydd yn y defnydd o safleoedd rhwydweithio cymdeithasol gan blant yn eu harddegau yn y DU, e.e. mynegodd 10 % o blant 6-9 oed fod ganddynt eu proffil Facebook eu hunain, 30 % o blant 7 -11oed, a chynnydd i 80 % o bobl ifanc 12-15 oed .
11 . Mae ¼ o blant 8 -11 mlwydd oed yn cyfathrebu â phobl ar-lein nad ydynt yn adnabod yn y byd go iawn.
12 . Facebook yw'r llwyfan rhwydweithio cymdeithasol mwyaf cyffredin a phobl ifanc ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu seiber fwlio ar Facebook nag unrhyw safle rhwydweithio cymdeithasol eraill .
Ym mis Ionawr mynychodd 180 o athrawon ysgol gynradd dair cynhadledd a gynhaliwyd ledled Cymru, ac a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru . Canolbwyntiodd y cynadleddau ar arfer gorau mewn addysg defnyddio a chamddefnyddio sylweddau, cam-drin domestig a diogelwch ar y rhyngrwyd fel rhan o'r cwricwlwm ABCh . Trefnwyd pob diwrnod unigol ar ffurf sesiynau cylchol i godi ymwybyddiaeth o natur newidiol gyflym defnyddio a chamddefnyddio sylweddau. Cyflwynwyd yr hyfforddiant gan Raglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan, Rhwydwaith Ysgolion Iach Cymru, Hafan Cymru a Wise Kids gyda chefnogaeth CEOP, yr asiantaeth Cam-fanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein.
Yn ystod y dydd archwiliwyd pynciau megis: twf mewn defnydd cyffuriau newydd sy’n ymddangos, adnabod cyffuriau, cam-drin domestig, sut i rymuso pobl ifanc tuag at brofiadau ar-lein diogel cadarnhaol, ynghyd a thrafod adnoddau a methodoleg i gynorthwyo i addysgu’r pynciau sensitif hyn yn yr ystafell ddosbarth.
Roedd y dyddiau’n llwyddiannus gyda 100% o’r cynadleddwyr yn graddio’r hyfforddiant cyffredinol yn ardderchog neu’n dda iawn. Dywedodd yr athrawon eu bod yn dychwelyd i’r ysgolion gyda’r bwriad o ddiweddaru eu cynlluniau gwaith a pholisïau ABCh a rhoi adborth i aelodau eraill o staff fel rhan o ddull ysgol gyfan.