Heriau y Fagloriaeth Cymru
Rydym wedi datblygu heriau Cymunedol a Dinasyddiaeth Fyd-eang a themâu ar gyfer Prosiectau Unigol ar gyfer bob un o'r gwersi sydd ar gael yng Nghyfnod Allweddol 4; a rydym wedi seilio rhywfaint ar ein gwersi Cyfnod Allweddol 3 hefyd. Mae’r heriau, a ysgrifennwyd yn benodol ar gyfer pob un o'n gwersi, yn ein llawlyfr Heriau y Fagloriaeth Cymru yr Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan (isod).
Yn yr adran hon o'r wefan, rydym yn darparu deunydd dilynol i gefnogi athrawon.
O fewn yr adran disgybl, gall myfyrwyr ymchwilio ymhellach i wers neu destun penodol.
Mae cyd-destun yr heriau yn berthnasol i’r holl wersi:
- “Yn dilyn eich ymweliad gan eich Swyddog Heddlu Cymunedol Ysgolion (SHCY), nodwch a datblygwch eich persbectif eich hunan am fater yn eich ardal chi. Beth yn eich barn chi fyddai'r ffordd orau i ymdrin â / helpu / neu atal y mater hwn?”
Sgiliau a arddangosir gan y dysgwyr a'u pwysigrwydd:
- Yn ogystal â datblygu deilliannau megis meddwl, cwestiynu, gwneud penderfyniadau, datrys problemau, gweithio gyda'n gilydd a sgiliau empathi, drwy ein heriau, bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau Meddwl yn Greadigol a Datrys Problemau, Creadigedd ac Arloesi, Cynllunio a Threfnu, ac Effeithiolrwydd Personol fel Sgiliau Hanfodol.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan CBAC.
Heriau y Fagloriaeth Cymru (PDF)
Ysgrifennwyd y heriau yma yn benodol am y gwersi a ddarparir gan RHYC fel rhan y Fagloriaeth Cymru.
ABCh - Fframwaith Y Bac - RHYC (PDF)
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu sut mae ein Rhaglen Heddlu Ysgolion Cymru yn ffitio mewn i’r Fframwaith Addysg Bersonol 2008 ac agweddau o gymhwyster Y Fagloriaeth Cymru. Ceir argymhellion am weithgareddau a themau posibl ar gyfer yr ymchwiliad unigol a gefnogir gan ein gwersi ym mlynyddoedd 10 ac 11.
Y Bac - Tystiolaeth o ymweliad gan SHY (DOCX)
Gall disgyblion gofnodi manylion am bob gwers a gyflwynwyd gan eu Swyddog Heddlu Ysgolion ar y ffurflen hwn. Gellir cadw’r daflen yn ffeil Bagloriaeth Cymru y disgybl fel tystiolaeth.