Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

Cymhwyster CA3 Achrededig Agored Cymru

Rydym ni wedi datblygu unedau achrededig CA3 lefel 2 (cyfwerth â TGAU gradd C) a lefel 1 a lefel Mynediad o 10 gwers gydag Agored Cymru. Mae'r gwersi'n canolbwyntio ar chamddefnyddio alcohol, meddiant a chyflenwi cyffuriau anghyfreithlon, Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Diogelwch ar y Rhyngrwyd a chamdriniaeth domestig. Fel rhan o'r uned 10 gwers, mae disgyblion yn derbyn 5 gwers wedi'u cyflwyno gan Swyddog Heddlu Cymunedol Ysgolion, a gefnogir gan 5 gwers a gyflwynir gan yr athro dosbarth.

Asesir y gwaith a gyflawnir gan yr athro dosbarth, a'i wirio gan y gwiriwr mewnol, ac yn olaf, mae'n cael ei basio gan y gwiriwr allanol.

Anelir yr uned newydd o wersi achrededig at ddisgyblion CA3. Er bod y Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan yn gyffredinol yn ei ymagwedd ar gyfer pob unigolyn ifanc, mae'r uned achrededig newydd yn caniatáu ar gyfer datblygu a gweithredu ymagwedd mwy targedig â disgyblion a nodir yn rhai sydd wedi ymddieithrio rhag dysgu neu'n bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

Adnoddau Agored Cymru

Ceir hyd i ddisgrifiad o'r uned, llyfryn gwaith sy'n darparu ar gyfer lefel Mynediad, 1 a 2 a'r matrics asesu ar gyfer dysgwyr ar wefan Agored Cymru:

Gwybodaeth Uned: Atal Trosedd a Chadw’n Ddiogel

Côd UnedLefelID UnedCyswllt
QH5E3CY002Mynediad 3CDJ457www.agored.cymru/Unedau-a-Chymwysterau/Uned/CDJ457
QH51CY005Lefel 1CDJ458www.agored.cymru/Unedau-a-Chymwysterau/Uned/CDJ458
QH52CY004Lefel 2CDJ459www.agored.cymru/Unedau-a-Chymwysterau/Uned/CDJ459
AC 2.1 Meddiant v Cyflenwi (PDF)
AC 2.2 Canlyniadau Uniongyrchol (PDF)
AC 2.3 Yr Effaith (PDF)
AC 3.2 Pedwar Cam Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (PDF)
AC 3.3 Canlyniadau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (PDF)
AC 4.2 Arwyddion Rhybudd (PDF)
AC 4.3 Cadw n Ddiogel (PDF)
AC 5.2 Mathau o Gamdriniaeth Domestig (PDF)
AC 5.3 Y Manteision (PDF)
CA3 L1 a 2 Cefnogaeth Athrawon (PPTX)
CA3 Lefelau 1-2 Gweithlyfr Asesiad (PDF)
CA3 Lefelau 1-2 Llyfryn atebion ar gyfer athrawon (PDF)