Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

Cymhwyster CA4 Lefel Mynediad, 1 a 2 Achrededig Agored Cymru

Rydym ni wedi datblygu unedau achrededig CA4 lefel 2 (cyfwerth â TGAU gradd C) a lefel 1 a lefel Mynediad o 10 gwers gydag Agored Cymru. Mae'r gwersi'n canolbwyntio ar gamddefnyddio sylweddau, camddefnyddio alcohol, cydsyniad rhywiol, camfanteisio ar blant a throseddau ceir. Fel rhan o'r uned 10 gwers, mae disgyblion yn derbyn 5 gwers wedi'u cyflwyno gan Swyddog Heddlu Cymunedol Ysgolion, a gefnogir gan 5 gwers a gyflwynir gan yr athro dosbarth.

Gelli’r asesu’r gwaith a cyflawnir mewn day ffordd:

  1. Gan yr athro dosbarth, a'i wirio gan y gwiriwr mewnol, ac yn olaf, mae'n cael ei basio gan y gwiriwr allanol.
  2. Drwy gofrestru’r disgyblion gydag Agored Cymru yn uniongyrchol er mwyn iddynt fedru eistedd e-assessiad arlein.

Anelir yr uned newydd o wersi achrededig at ddisgyblion CA4. Er bod y Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan yn gyffredinol yn ei ymagwedd ar gyfer pob unigolyn ifanc, mae'r uned achrededig newydd yn caniatáu ar gyfer datblygu a gweithredu ymagwedd mwy targedig â disgyblion a nodir yn rhai sydd wedi ymddieithrio rhag dysgu neu'n bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

Adnoddau Agored Cymru

Ceir hyd i ddisgrifiad o'r uned, llyfryn gwaith sy'n darparu ar gyfer lefel Mynediad, 1 a 2 a'r matrics asesu ar gyfer dysgwyr ar wefan Agored Cymru:

Gwybodaeth Uned: Agweddau Cymdeithasol a Chyfreithiol o Ddiogelwch Personol

Côd UnedLefelID UnedCyswllt
HB1E3CY034Mynediad 3CDJ460www.agored.cymru/Unedau-a-Chymwysterau/Uned/CDJ460
HB11CY075Lefel 1CDF493www.agored.cymru/Unedau-a-Chymwysterau/Uned/CDF493
HB12CY061Lefel 2CDF494www.agored.cymru/Unedau-a-Chymwysterau/Uned/CDF494
CA4 L1 a 2 PowerPoint Cefnogi ar gyfer Athrawon (PPT)
Llyfryn Atebion (PDF)
Dysgu am alcohol AC1 1 (PDF)
Dysgu am berthnasau diogel AC3 1 (PDF)
Dysgu am beryglon camfanteisio rhywiol AC4 1 (PDF)
Dysgu am gyffuriau AC2 3 (PDF)