Cwis y Rhaglen Graidd Genedlaethol

yng Ngwesty’r Copthorne, Caerdydd am 7.00yh ar 6 Chwefror 2014

Ysgol Uwchradd Syr Thomas Picton o Hwlffordd yw enillydd Rownd Derfynol Genedlaethol Cwis Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan

Cynhaliwyd rownd derfynol genedlaethol Cwis Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan yng Ngwesty’r Copthorne, Caerdydd. Y pedwar tîm a oedd yn cystadlu am y cwpan cenedlaethol oedd y pedwar enillydd rhanbarthol o bob un o ardaloedd heddluoedd Cymru:

• Ysgol Uwchradd Caldicot, Caldicot, yn cynrychioli Gwent
• Ysgol Uwchradd Dwryfelin, Castell Nedd, yn cynrychioli De Cymru
• Ysgol Uwchradd Syr Thomas Picton, Hwlffordd, yn cynrychioli Dyfed Powys
• Ysgol Uwchradd y Creuddyn, Bae Penrhyn, yn cynrychioli Gogledd Cymru

Roedd 5 disgybl o flwyddyn 8 ym mhob tîm, ac roeddent wedi treulio cryn dipyn o amser ac ymdrech yn dysgu gwybodaeth am dair prif thema’r Rhaglen Graidd:

• Camddefnyddio Cyffuriau a Sylweddau
• Ymddygiad Cymdeithasol a’r Gymuned
• Diogelwch Personol

Yn ystod y cwis, a gyflwynwyd gan Kevin Johns o Radio Swansea Sound, bu’r timau yn ateb cwestiynau ar gyffuriau a sylweddau, ymddygiad gwrthgymdeithasol, lleihau llosgi bwriadol, diogelwch personol, diogelwch ar y ffyrdd, materion iechyd a chawsant hefyd eu profi ar eu sgiliau arsylwi. Roedd yr ystafell yn llawn tensiwn wrth i’r rowndiau fynd rhagddynt gydag ond ychydig bwyntiau rhwng yr holl dimau ar ddechrau’r rownd olaf. Ar ddiwedd rownd chwech arhosodd pawb yn eiddgar i glywed y sgôr terfynol. Cyhoeddodd Kevin Johns mai yr ysgol llwyddiannus oedd Ysgol Uwchradd Syr Thomas Picton o Hwlfordd, gyda sgôr terfynnol o 62.

Cafodd pob un a gymerodd ran blac a thystysgrif a gyflwynwyd iddynt gan Mr Alun Michael – Comisiynydd Trosedd Heddlu de Cymru. Fel syrpreis ychwanegol am eu gwaith caled cafodd pob un taleb iTunes a derbyniodd yr ysgol buddugol Gliniadur HP gyda chasyn i’w gludo a meddalwedd perthnasol, a gyfrannwyd gan G4S.

Fel gwobr ychwanegol, y diwrnod canlynol bu’r timau ar ymweliad â Gorsaf Dân Trelai ac yna Techniquest, cyn teithio’n ôl i’w hardaloedd.

Meddai Linda Roberts, Cydlynydd Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan:
“Mae llwyddiant y digwyddiad hwn wedi ei seilio ar bartneriaeth effeithiol. Hoffwn ddiolch i’r Gwasanaeth Tân ac Achub am eu hymrwymiad, heb eu cefnogaeth ni fyddai’n bosib cynnal y digwyddiad yma. Hoffwn hefyd ddiolch i’n partneriaid yn y fenter hon sydd wedi rhoi o’u hamser a’u hymdrech i wneud heno’n lwyddiant, yn benodol Ysgolion Iach, Diogelwch y Ffyrdd Cymru, Partneriaeth Diogelwch ar y Rhyngrwyd (WISP), Taclo’r Taclau a BRfm Ltd.”

Gellir gweld aelodau tîm Ysgol Uwchradd Syr Thomas Picton yn y llun:
1. Ashwin Gunasekaran
2. Sophie Layton
3. Tom Long
4. Elizabeth Rowland
5. Euan Mc Sweenay

Hefyd yn y llun o’r chwith i’r dde:
1. Prif Arolygydd Cynorthwyol Dros Dro Heddlu Dyfed Powys Pam Kelly
2. Dirprwy Comisiynydd Trosedd Heddlu Dyfed Powys Tim Burton
3. Prif Swyddog Tan Cynorthwyol Gwasanaeth Tan ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Chris Davies
4. Athrawes Ysgol Uwchradd Syr Thomas Picton Alyson Moules
5. Uwch Arolygydd Heddlu Dyfed Powys Chris Curtis
6. Swyddog Heddlu Cymunedol Ysgolion PC Jenny Thomas
7. Cydlynydd Rhanbarthol Cyswllt Ysgolion Heddlu Dyfed Powys Bethan James

Dyfyniadau gan athrawon
• Ardderchog! Fe fuont yn gweithio’n dda fel tîm
• Fe wnaethant ddysgu llawer o wahanol bethau a fydd o gymorth iddynt yn eu bywydau.
• Mae hyder a hunan-barch y disgyblion wedi cynyddu drwy gynnwys rhieni, cyfoedion, yr heddlu ac athrawon.
• Dysgwyd gwybodaeth ar gyfer bywyd.
• Datblygwyd sgiliau gwaith tîm, technegau adolygu – llawer o wybodaeth sy’n berthnasol i’r fframwaith ABCh. Llawer o hwyl!
• Profiad i’w gofio. Diolch, pleserus iawn
• Fe wnaethom gynnwys blwyddyn 8 gyfan drwy gystadleuaeth dosbarth ac yna gwneud y dewis terfynol.
• Cynyddwyd gwybodaeth am gyfyngiadau oedran a ysgogodd lawer o drafodaeth yn yr ystafell ddosbarth
• Gwella’r rhyngweithio gyda SHCY
• Gwella gwybodaeth y disgyblion am nifer o bynciau
• Mae’r disgyblion yn falch o’r hyn y maent wedi ei gyflawni a’u llwyddiant
• Mae eu hyder a’u hunan-barch wedi cryfhau
• Mae adborth gan rieni wedi bod yn gadarnhaol iawn
• Maent wedi amsugno llawer o wybodaeth a ffeithiau pwysig, a byddant yn defnyddio’r rhain fel rhan o’n cynllun mentora i addysgu eraill.

Dyfyniadau disgyblion
• Dysgais lawer am sut i gadw fy hun ac eraill yn ddiogel
• Dysgais lawer am y pynciau yn y deunydd gwreiddiol
• Roedd yn brofiad gwych
• Rwy’n teimlo fel fy mod wedi cyflawni rhywbeth ac rwy’n fwy gwybodus
• Rwy’n gwybod mwy am y gyfraith
• Rydw i wedi elwa llawer a hoffwn ymuno â’r heddlu pan fyddaf yn hŷn
• Addysg yn y gyfraith
• Rwy’n gwybod beth ddylwn ei wneud a beth na ddylwn ei wneud os bydd rhywun yn cymryd cyffuriau
• Mwynheais yn fawr a dysgais lawer
• Dysgais lawer a chefais hyder
• Dysgais lawer am ddiogelwch a chyffuriau
• Mwynheais weithio fel tîm
• Roedd hi’n braf iawn cael rhywun yn gofyn i mi wneud rhywbeth gwych fel hyn
• Rydw i wedi dysgu llawer o bethau pwysig
• Roedd yn hwyl!
• Roedd hi’n braf cwrdd â phobl eraill
• Gobeithiaf ymuno â’r heddlu rhyw ddydd
• Rydw i wedi dysgu sut i gadw’n ddiogel ac rwy’n falch fy mod wedi cael fy newis