Mae'r adran hon yn rhoi rhestr o wefannau a argymhellir gyda disgrifiad cryno o bob gwefan. Mae pob gwefan yn darparu adnoddau neu wybodaeth ar feysydd pynciau'r rhaglen.
Alcohol Concern yw’r asiantaeth genedlaethol sy’n cefnogi camddefnydd alcohol. Ei nod yw lleihau nifer y digwyddiadau a chostau niwed cysylltiedig ag alcohol a chynyddu ystod ac ansawdd y gwasanaethau sydd ar gael i bobl sydd â phroblemau cysylltiedig ag alcohol. Mae Alcohol Concern yn darparu gwybodaeth ac yn annog trafodaeth ar yr ystod eang o faterion polisi cyhoeddus yr effeithir arnynt gan alcohol. Yn cynnwys iechyd y cyhoedd, tai, plant a theuluoedd, trosedd a thrwyddedu. Maent yn cefnogi darparwyr gwasanaeth arbenigol ac anarbenigol gan gynorthwyo i fynd i’r afael â phroblemau alcohol ar lefel leol, tra hefyd yn gweithio i ddylanwadu ar bolisi alcohol cenedlaethol.
Elusen iechyd y cyhoedd yw ASH sy’n gweithio er mwyn cael ymateb cymdeithasol cynhwysfawr i dybaco gyda’r nod o leihau, ac yn y pen draw ddileu’n llwyr, y problemau a achosir gan dybaco. Mae dalennau ffeithiau a gwybodaeth ar gael i’w lawrlwytho.
Gwefan eang sy’n darparu gwybodaeth ar gyfer disgyblion, rhieni ac athrawon.
www.bbc.co.uk/surgery/drink_drugs
Darparu gwybodaeth cyffuriau ar hefyd www.dr-ugged.co.uk, sy’n darparu gwybodaeth am ddiodydd wedi eu sbeicio a thrais ar ddêt.
Mae’r wefan yn cynnwys llawer o gemau, gweithgareddau rhyngweithiol, lawrlwythiadau a digwyddiadau ar gyfer pobl ifanc mewn perthynas â ffyrdd o fyw, dod i ddeall eich calon, food4thought, ysmygu a chyffuriau anghyfreithlon.
Gwefan ryngweithiol yw hon gydag adrannau ar gyfer plant a phobl ifanc, athrawon a rhieni. Mae’n darparu gwybodaeth am gamddefnydd alcohol a diogelwch personol, pwysau gan gyfoedion, trosedd a’r gyfraith, y cartref a theuluoedd, diogelwch ar-lein a gweithgareddau rhyngweithiol.
www.childprotectionukltd.co.uk
Yma ceir gwybodaeth ac adnoddau sydd â’r nod o ddyfodol di-gyffuriau. I gysylltu â’r asiantaeth hon e-bostiwch - Childprotection[at]tiscali.co[dot]uk
Gwefan llinell gymorth cyffuriau ac alcohol ddwyieithog. Mae’n darparu A-Z cyffuriau a gwybodaeth ddefnyddiol am y llinell gymorth. (08006335588). Ar y wefan ceir dolen i gronfa ddata ar-lein a fydd yn eich cynorthwyo i ganfod asiantaethau cymorth yn eich ardal chi.
Gwefan strategaeth gyffuriau traws lywodraeth yw hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol cyffuriau ac eraill sydd â diddordeb yn y strategaeth. Ar y wefan ceir cyhoeddiadau, digwyddiadau, Cyfeirlyfr Rhwyg Gweithredu Cyffuriau, Adnoddau Ymgyrch Gyffuriau Gyhoeddus, Datganiadau i’r Wasg a’r Strategaeth Gyffuriau Genedlaethol.
www.drugscope.org.uk
Mae hon yn wefan ragorol ar gyfer pobl ifanc 11-15 oed gyda digonedd o gemau a gweithgareddau sy’n edrych ar gyffuriau ac alcohol. Arni hefyd ceir dolenni i gemau gwych, am ddim ar y we. Mae’n werth ymweld â D-world fel rhan o’r cwmpas cyffuriau.
Mae Kids Health yn wefan fawr sy’n darparu gwybodaeth iechyd a gymeradwyir gan feddygon ynglyn â phlant o’r cyfnod cyn geni hyd at lencyndod. Wedi ei chreu gan The Nemours Foundation's Centre for Children's Health Media, mae Kids Health yn rhoi gwybodaeth iechyd fanwl gywir, gyfoes, heb y jargon i'w defnyddio gyda disgyblion CA2 a CA3. Mae iddi adran ar wahân ar gyfer plant, rhai yn eu harddegau a rhieni, pob un â’u dyluniad eu hunain a chynnwys priodol i’r oedran. Mae’n cynnwys llawer o eitemau nodwedd manwl, erthyglau, animeiddiadau, gemau ac adnoddau - i gyd yn wreiddiol ac wedi eu datblygu gan arbenigwyr mewn iechyd plant a phobl ifanc yn eu harddegau.
www.patient.co.uk/health/Alcohol-and-Sensible-Drinking.htm
Gwefan llawn gwybodaeth ar gyfer pobl ifanc ynglyn â pheryglon yfed sbri, mae’n cynnwys gemau rhyngweithiol, senarios a ffeithiau, y gellir eu defnyddio yn unigol neu mewn sefyllfa grwp.
gwefan y Groes Goch yw hon gydag adnoddau addysgol ac awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau mewn gwersi i godi ymwybyddiaeth ynglyn â chymorth cyntaf a thechnegau mewn argyfwng.
Sefydlwyd Re-solv ym 1984 gan Barrie Liss, OBE, YH ac mae’n parhau i fod yr unig elusen genedlaethol sydd yn benodol ar gyfer atal camddefnydd toddyddion a sylweddau anweddol.
Mae gan y wefan hon gyfleusterau rhyngweithiol ynglyn ag ysmygu wedi eu hanelu at blant, rhieni ac athrawon. Mae hefyd yn darparu rhestr bostio ddefnyddiol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Mae yma ddalenni gwaith y gellir eu lawrlwytho yn ymwneud ag agweddau ar gymorth cyntaf o dan gynllun achubwr ifanc e.e. yr ystum adferol a galwad ffôn mewn argyfwng, tagu, gwenwyno, ac ati.
Darparu gwybodaeth ar gyfer taflenni athrawon ar gyffuriau, cyngor ar gael cymorth ac mae yma hefyd ddolen os ydych yn bryderus am rywun arall. Gallwch e-bostio FRANK os oes gennych unrhyw gwestiynau sydd heb eu hateb ynglyn â chamddefnydd sylweddau neu ffoniwch y llinell gymorth 24 awr, saith diwrnod yr wythnos ar 0800 77 66 00.
Ar y wefan hon ceir banc o adnoddau ar gyfer ABCh. Mae’n cynnwys 97 o adnoddau i’w defnyddio gyda’r Cyfnod Sylfaen, yn cynnwys gwrth-fwlio, ymddygiad, diogelwch, rheolau aur a diogelwch ar y ffyrdd.
Mae’r wefan hon yn llawn hyd yr ymylon o wybodaeth am bob agwedd ar fywyd. Mae hwn yn ddeunydd cyfeirio da ar gyfer cyffuriau ac alcohol gyda dolenni i wefannau cenedlaethol a lleol eraill. Mae’r wefan wedi ei bwriadu ar gyfer y grwp oedran 1.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, wedi datblygu prosiect ar gyfer adnabod cyffuriau newydd a thueddiadau o ran defnyddio ledled Cymru, yn arbennig ymysg pobl ifainc. Medrwch ddarllen eu cylchlythyr er mwyn cael gwybodaeth am gyffuriau a’r tueddiadau diweddaraf.
Mae prosiect WEDINOS yn caniatáu ar gyfer profi samplau sylweddau anhysbys am ddim. Gall sefydliadau, megis ysgolion, anfon sylweddau. Er mwyn darganfod mwy am waith Wedinos, cliciwch yma www.wedinos.org.
Gwefan bynciol ddefnyddiol am amrywiaeth o faterion sy’n cynnig adnoddau a deunyddiau i gefnogi athrawon ar gyfer materion hawliau dynol yn y cwricwlwm.
Mae’r wefan hon yn darparu gwybodaeth ar gyfer disgyblion o bob oed am fwlio, yr effeithiau a’r canlyniadau
Mae’r wefan ar gyfer athrawon yn bennaf, a gan nad yw’r rhyngwyneb yn arbennig o addas i blant nid yw’n addas ar gyfer ei ddefnyddio i addysgu yn y dosbarth. Mae llawer o astudiaethau achos i’w darllen am brofiadau pobl gyda bwlio a sut i’w goresgyn, llawer o ddiffiniadau bwlio, mathau o fwlio a sut i oresgyn bwlio.
- Crëwch eich poster dim bwlio eich hun
- Darllenwch Stori Ben am fwlio
- Trafodwch yr Arolwg Cenedlaethol ar Fwlio
- Darllenwch y tudalennau problemau, trafod ac ysgrifennu atebion fel dosbarth.
Llawer o wybodaeth ar gyfer athrawon. Chwarae gêm lle byddant yn dylunio bwli ac arwr a rhaid iddynt ddianc rhag y bwli.
CAFOD yw’r Asiantaeth Gatholig ar gyfer Datblygiad Tramor. Mae ar y wefan adrannau ar wahân ar gyfer disgyblion cynradd ac uwchradd. Maent yn cynnwys clipiau fideo, cwisiau, gwasanaethau, cynlluniau gwaith a thaflenni gwybodaeth i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth.
Gwefan ryngweithiol yw hon gydag adrannau ar gyfer plant a phobl ifanc, athrawon a rhieni. Mae’n darparu gwybodaeth, gemau a gweithgareddau ar gyfer disgyblion CA2.
Gwefan Cymorth Cristnogol sy’n darparu gwasanaethau a gwybodaeth am faterion cyfredol byd-eang. Mae adran ar gyfer plant sydd â’r teitl ‘global gang’ gyda gemau a storïau i gynnal diddordeb disgyblion CA2.
Mae’n addas ar gyfer athrawon a disgyblion CA3 yn darparu gwybodaeth ar fathau o fwlio, strategaethau gwrth-fwlio, achosion bwlio ac ati.
Mae’r wefan hon yn addas ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a disgyblion CA2. Mae’n wefan ryngweithiol sy’n cynnwys gweithgareddau megis gêm ‘Beat the Bully’, cynghorion am sut i syrffio’n ddiogel a gwybodaeth ddefnyddiol os ydych yn cael eich bwlio.
Wrth fynd i mewn i’r wefan cliciwch teachers. Mae’r wefan yn cynnig ystod o syniadau ac adnoddau ar gyfer disgyblion y blynyddoedd cynnar, 5-7, 7-11, 11-14, 14-16 oed er mwyn cefnogi athrawon sy’n dymuno datblygu dinasyddiaeth fyd-eang yn eu dosbarth.
Mae'r wefan hon yn cynnwys adran adnoddau addysgol ar gyfer gwaith cynradd ac uwchradd. Codir tâl am yr adnoddau hyn.
Gwefan yn cynnwys gwybodaeth am ddiogelwch ar y ffyrdd gan BRAKE.
www.soschildrensvillages.org.uk
Elusen ar gyfer dod o hyd i gartrefi newydd ar gyfer plant amddifad. Mae gan y wefan hon gasgliad o erthyglau newyddion a allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer trafodaeth.
Mae gan wefan Heddlu De Cymru adran a elwir yn ‘Swoopies’ ar gyfer plant ifanc. Gellir lawrlwytho rhagor o ddalennau lliwio Tarian a’i ffrindiau o’r wefan hon.
Adnoddau a syniadau ABCh. Cyfeillgarwch, dysgu rhannu, penderfyniadau cywir ac anghywir.
Ar y wefan mae banc o adnoddau ar gyfer ABCh. Mae’n cynnwys llawer iawn o adnoddau i'w defnyddio gyda disgyblion cynradd, yn cynnwys gwrth-fwlio, ymddygiad, diogelwch, rheolau aur a diogelwch ar y ffyrdd.
www.theaa.com/aattitude/teacher-zone/index.jsp
Gwefan gan yr AA. Yn y parth athrawon mae gwersi megis “Are you Road Worthy?” Mae gwybodaeth/ffeithiau hefyd ar gael am faterion Gyrru/ Diogelwch/ Gyrwyr Ifanc. Efallai y bydd y disgyblion yn mwynhau’r wers yrru ar-lein.
Yr Ystafell, ble gall plant a phobl ifanc gael gwybodaeth am Wasanaethau Ambiwlans Cymru. Yn ‘Yr Ystafell’ gallwch ganfod beth yw argyfwng a phryd y dylech ffonio 999, pa gyfleoedd gyrfa gwahanol sydd ar gael o fewn y gwasanaeth ambiwlans. Hefyd, gallwch adrodd eich stori os ydych wedi defnyddio’r gwasanaeth ambiwlans erioed.
Mae’r Rhwydwaith Gwrth-fwlio yn cefnogi gwaith gwrth-fwlio mewn ysgolion. Mae arni adran person ifanc gyda deunyddiau cefnogi.
Elusen diogelwch ar y ffyrdd genedlaethol sydd â’r nod o atal marwolaethau ac anafiadau ar y ffyrdd drwy addysg. Ceir yma ‘Kidz’ Zone’ gyda deunyddiau addas ar gyfer gwahanol grwpiau oedran.
Mae’r wefan wedi dod yn adnodd ar gyfer pobl sy’n defnyddio peiriannau chwilio i ddod o hyd i wybodaeth ddibynadwy am amrywiaeth o faterion yn ymwneud â bwlio. Mae ganddi safle ar gyfer pobl ifanc sy’n mynd i’r afael â bwlio seiber a negeseuon tecst ffiaidd. Mae arni adran ar gyfer pobl ifanc sy’n mynd i’r afael â bwlio ar gludiant ysgol
Gwefan a gynhyrchwyd gan Childnet sy’n edrych yn benodol ar beryglon Ystafelloedd Sgwrsio ar y Rhyngrwyd. Mae’r wefan hon yn ymwneud â pheryglon posibl gwasanaethau rhyngweithiol ar-lein megis sgwrsio, IM, gemau ar-lein, e-byst a ffonau symudol.
Gwefan ryngweithiol gydag adrannau ar gyfer plant, pobl ifanc, athrawon a rhieni. Mae’n darparu gwybodaeth a chyngor am wahanol fathau o fwlio, diogelwch ffonau symudol, pwysau gan gyfoedion, trosedd a’r gyfraith, diogelwch ar-lein a gweithgareddau rhyngweithiol ar gyfer CA2.
Prif wefan Chlildnet sy’n cynnwys ardal arbennig i blant a elwir yn “joinhands” lle gall plant ddisgrifio beth maen nhw’n ei feddwl am y Rhyngrwyd. Cysylltu’n uniongyrchol i Childnet gydag adnoddau ar gyfer pobl ifanc yn cynnwys Forum, Kidsmart a Chantdanger sydd wedi eu cymedroli.
Gwefan bartneriaeth rhwng yr heddlu, y cyfryngau a’r gymuned i fynd i’r afael â throseddu.
Datblygwyd Pentre Peryglon gan Heddlu Gogledd Cymru ac mae’n ganolfan bwrpasol sy’n darparu gwybodaeth diogelwch ar gyfer plant a phobl ifanc.
Mae angen i blant o bob oed wybod am ddiogelwch ar y ffyrdd. Mae gan wefan Think lawer o adnoddau addysgu sydd wedi eu datblygu i fodloni targedau’r cwricwlwm a hefyd fforwm i drafod gwahanol agweddau ar ddiogelwch ar y ffyrdd.
Ymgyrch arlein cynhwysfawr y D.U. yw Byddwch yn Ddiogel sydd hefyd yn fenter genedlaethol , er mwyn dysgu pobl am ddiogelwch sylfaenol ar y cyfrifiadur a phreifatrwydd ar y We. Mae’r wefan yn cynnwys arweiniad 10 munud i ddechreuwyr yn ogystal â mwy o wybodaeth technelegol ac arweiniad ar gyfer busnesau , yn ogystal â defnyddwyr yn y cartref.
Mae gan wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru nifer o ddogfennau perthnasol.
Gwefan dysgu gartref sy’n cynnig gêm ymennydd a sgiliau meddwl. Mae ei chanolfan ddysgu wedi ei chynllunio ar gyfer plant rhwng pump a deuddeg mlwydd oed. Mae arni hefyd adrannau ar gyfer athrawon a rhieni. Mae gan y Gridclub Learning Centre dros 500 o gemau a gweithgareddau wedi eu cynllunio ar gyfer plant rhwng chwech a deuddeg oed. Mae’n un o’r gwefannau mwyaf poblogaidd yn y DU oherwydd ei harddull llawn hwyl at ddysgu.
www.gunsandknivestakelives.com
Mae’n cyfeirio at wneud DVD sydd, yn ôl adroddiadau, yn gyfrifol am leihad sylweddol mewn digwyddiadau. Cwis rhyngweithiol er mwyn adnabod gynnau go iawn a gynnau ffug a phosteri effeithiol. Newidiadau i’r gyfraith gynnau. Adnoddau rhyngweithiol i gefnogi cynllun gwers.
Canllaw ar gyfer diogelwch ar y rhyngrwyd a syrffio diogel ar gyfer pobl ifanc gan ThinkuKnow. Dysgu sut i ddefnyddio’r cyfrifiadur yn ddiogel drwy wylio cyflwyniad am Hector a’i ffrindiau.
Yma ceir manylion seminar diogelwch y rhyngrwyd a gweithgareddau y gall athrawon eu harchebu ar gyfer yr ystafell ddosbarth. Yn arbennig ar gyfer cyflwyno plant canol dinas i weithgareddau o ansawdd.
Rhaglen ‘Be Safe’, gwefan y Swyddfa Gartref. Yr adnodd mwyaf cyflawn ar droseddau cyllyll yn y DU. Yn cynnig gwybodaeth am ddioddefwyr, aros yn ddiogel, adran ar gyfer plant a phobl ifanc a sut i riportio trosedd.
Mae llinell cymorth y NSPCC ar gael ar gyfer athrawon a Phersonau Dynodedig, neu rywun sy’n cael ei brydur am blentyn. Gellir cael mynediad at yr adnodd ychwanegol fel ffynhonnell cymorth, cyngor a chefnogaeth. Mae’r llinell cymorth ar gael ar 0808 800 5000 neu gan e-bost ar help[at]nspcc.org[dot]uk
Cyflwyniadau PowerPoint ynglyn â gwneud ffrindiau a sut yr ydym yn hoffi cael ein trin.
Mae Diogelwch ar y Ffyrdd Cymru wedi ei sefydlu i greu partneriaethau rhwng yr holl randdeiliaid yng Nghymru. Y genhadaeth yw sicrhau llai o anafedigion drwy weithio ar y cyd. Mae gan y wefan adran addysg sy’n mynd i’r afael â materion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.
Mae’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau yn darparu cyngor a gwybodaeth ar ystod eang o bynciau. Ceir adran addysg diogelwch a risg.
Mae’r wefan yn cynnig nodweddion diddorol a chyngor ymarferol ar bob math o faterion diogelwch. Gallwch gyrchu fideos ar ystod o bynciau sy’n berthnasol i ddiogelwch plant.
Gwefan swyddogol Ymgyrch Trident yr Heddlu Metropolitanaidd. Yn cynnwys cyngor, posteri, hanesion, gangiau a dulliau riportio.
Mae Ymddiriedolaeth Suzy Lamphlugh yn darparu cyngor ymarferol ar gyfer aros yn ddiogel mewn pob math o amgylchiadau ar droed, ar y trên neu ar fws, ffonau symudol, allan gyda ffrindiau, adref eich hun. Mae Live Life Safe yn cynnig cynghorion ar decstio a phrawf a chwisiau diogelwch.
Adnoddau a syniadau ABCh ar gyfer athrawon cynradd. Cyfeillgarwch, dysgu rhannu, penderfyniadau cywir ac anghywir.
Ar y wefan mae banc o adnoddau ar gyfer ABCh. Mae’n cynnwys llawer iawn o adnoddau i'w defnyddio gyda disgyblion cynradd, yn cynnwys gwrth-fwlio, ymddygiad, diogelwch, rheolau aur a diogelwch ar y ffyrdd.
Mae adrannau ar y wefan yn cynnwys ‘Put down the Knife’ ac ymwybyddiaeth gynnau. Yn cynnwys DVD Knife City.
Gwefan ar gyfer plant a gynhelir gan CEOP (Child Exploitation and Online Protection Centre) sy’n cynnig cyngor ar sut i aros yn ddiogel ar y rhyngrwyd. Mae’n cynnwys gwybodaeth ar sut i aros yn ddiogel tra’n cael hwyl ar-lein a hefyd adran ar gyfer athrawon a rhieni.
Mae Wise Kids yn hyrwyddo llythrennedd y rhyngrwyd, diogelwch ar-lein a gwybodaeth bellach ar gyfer pobl ifanc.
www.wales.gov.uk/personalandsocialeducation
Gwefan cyfarwyddyd ABCH sy'n cynnwys fframwaith ABCH 2008.
www.new.wales.gov.uk
Mae nifer o ddogfennau perthnasol ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.
wales.gov.uk/antibullying
Cyfarwyddyd gwrth fwlio - parchu eraill.