People Who Help Us

CS

Disgrifiad Gwers

Mae amrywiaeth o bropiau cymorth gweledol a storiau yn helpu disgyblion i adnabod y pum gwasanaeth sydd yn gallu eu helpu nhw mewn argyfwng. Drwy chwarae rol maent yn ymarfer gwneud galwadau 999 addas ac yn dysgu Tarian beth maent wedi'i ddysgu.

Adnoddau Athrawon

Safe Haven (S)

CS

Disgrifiad Gwers

Mae'r wers hon yn cyflwyno’n sensitif y cysyniad o gam-drin domestig. Gan ddefnyddio chwarae rôl, amser stori a gweithgareddau rhyngweithiol eraill, mae'n helpu plant i archwilio a deall emosiynau anodd. Mae'r wers hefyd yn amlygu pwysigrwydd siarad ag oedolyn y maent yn ymddiried yn os ydynt yn teimlo'n anniogel neu'n anghyfforddus.

Adnoddau Athrawon

Playing Safe (S)

CS

Disgrifiad Gwers

Mae’r wers hon yn defnyddio amrywiaeth o adnoddau gweledol, propiau a stori sy’n helpu disgyblion i adnabod lleoedd diogel i chwarae gan atgyfnerthu pwysigrwydd dweud wrth oedolyn yr ydynt yn ymddiried yn ble fyddant pob amser.

Adnoddau Athrawon

Friend or Foe

CA2Is

Disgrifiad Gwers

Mae’r wers yn codi ymwybyddiaeth y disgyblion nad yw’n bosibl adnabod person yn unig wrth ei hymddangosiad. Mae’n helpu’r disgyblion i adnabod sefyllfaaedd a all fod yn beryglus ac yn cynnig cyfle i archwilio strategaethau ymdopi. Mae DVD byr o’r enw stori Anwen yn amlygu pwysigrwydd siarad ag oedolyn y gallant ymddiried ynddynt os ydynt yn teimlo yn anniogel neu’n anghyfforddus.

Adnoddau Athrawon

Stay SMART (S)

CA2Is

Disgrifiad Gwers

Mae "Cadw'n SMART" yn gwers newydd ar gyfer rhai rhwng 7 a 9 oed, i godi ymwybyddiaeth o faterion pwysig diolgelwch a phreifatrwydd pan sgwrsio neu chwarae ar-lein.

Adnoddau Athrawon

Be Cyber Safe

CA2U

Disgrifiad Gwers

Mae'r wers hon yn rhoi sylw i ferch ifanc sy'n ddiarwybod yn dod yn ddioddefwr seibr-fwlio. Mae'r DVD yn dangos pa mor fregus yw plant i'r math hwn o fwlio, a'r effaith y gall hyn ei gael ar eu bywydau. Mae'r wers yn amlygu'r broblem ac yn hyrwyddo trafodaeth ynghylch y mater.

Adnoddau Athrawon

Picture This! (S)

CA2U

Disgrifiad Gwers

Yn y wers hon bydd disgyblion yn dysgu am ddefnydd positif ffonau symudol. Byddant yn gwylio DVD am gymeriad o’r enw Esther sy’n cynhyrchu ffilm drwy ddefnydd ei ffôn symudol. Yn anffodus mae Esther yn ei chael ei hun mewn trwbl. Wrth drafod a chan ddefnyddio adnoddau rhyngweithiol bydd y disgyblion yn archwilio canlyniadau camddefnyddio ffôn symudol, sut i osgoi pethau yn mynd o’i le a phwy all helpu os byddant yn.

Adnoddau Athrawon

Griff's Story (S)

CA2U

Disgrifiad Gwers

Mae ein gwers Stori Griff ar gyfer addysgu plant blwyddyn 6 am Gam-driniaeth a Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant. Mae'r wers hon yn newydd ar gael yn 2019 i'w ddarparu gan ein Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgolion.

Adnoddau Athrawon

The Right to Be Safe (S)

CA2U

Disgrifiad Gwers

Mae’r wers hon yn canolbwyntio ar hawl pob plentyn a pherson ifanc i deimlo’n ddiogel. Drwy weithgareddau dosbarth a gwaith grŵp gofynnir i ddisgyblion ystyried amrywiaeth o sefyllfaoedd diogel ac anniogel, sut y gall peryglon gael eu lleihau, ac at bwy gallant droi os bydd angen help neu gefnogaeth arnynt.

Adnoddau Athrawon