Look Who's Talking

CA3

Disgrifiad Gwers

• Bod yn ymwybodol ar-lein, y gall rhai pobl fod yn wahanol i bwy y dywedant ydynt • Diogelu eich hun a pheidio â mynd i sefyllfa o risg • Gwybod lle i fynd am gymorth, cyngor a chefnogaeth

Adnoddau Athrawon

No Means No

CA3

Disgrifiad Gwers

Mae’r wers hon yn cyflwyno’r syniad o gydsynio ac yn datblygu strategaethau sy’n rymuso’r bobol ifanc i ddeall cydsyiad rhywiol. Bydd y disgyblion yn gwylio DVD er mwyn agor y ddadl am gydsyniad rhywiol, y gyfraith a’r canlyniadau gan archwilio scenarios sy’n galluogi’r disgyblion i wneud penderfyniadau gwybodus. Mae’r wers hefyd yn tynnu sylw at yr asiantaethau cefnogol lleol a chenedlaethol.

Adnoddau Athrawon

Risky Pics (S)

CA3

Disgrifiad Gwers

Mae ffilm sydd wedi ennill gwobrau rhyngwladol yn ganolbwynt i’r wers ac ynddo mae Erin, merch ysgol, yn penderfynu anfon delwedd anweddus o’i hun at ei chariad. Mae’r ffilm yn dangos y canlyniadau i Erin ar ôl iddi bwyso’r botwm ‘anfon’ ac yn dangos y gwahanol bethau sy’n digwydd pan fydd hi’n penderfynu ‘dileu’. Bydd disgyblion yn darganfod canlyniadau cymdeithasol ac emosiynol Secstio ac yn darganfod beth sydd gan y Gyfraith i’w ddweud. Yna, bydd disgyblion yn cael eu cyfeirio at y cymorth sydd ar gael.

Adnoddau Athrawon

Tricked and Trapped (S)

CA3

Disgrifiad Gwers

Mae’r wers hon yn dysgu am gamfanteisio ar blant, yr arwyddion camfanteisio’n droseddol, yr effaith ar y plentyn a lle i gael cymorth a chefnogaeth. Mae'r Gyfraith yn amddiffyn plant ac na all yr un plentyn ganiatáu cam-fanteisio. Nid yw byth yn fai arnyn nhw. Bydd eich Swyddog Heddlu Cymunedol Ysgolion yn eich cynorthwyo i ddeall a gwrthod camfanteisio ar blant

Adnoddau Athrawon

Dangerous Deception (S)

CA3

Disgrifiad Gwers

Yn seiliedig ar ddigwyddiad bywyd go iawn mae’r DVD yn disgrifio stori Lucy. Cysylltwyd â hi gan ddyn ar y rhyngrwyd a oedd yn dynwared Asiantaeth Modelu. Cyn bo hir mae Lucy yn cael ei chamfanteisio ar yn rhywiol. Gan ddefnyddio trafodaeth a gweithgareddau rhyngweithiol mae’r wers yn canolbwyntio ar adnabod arwyddion rhybudd cynnar ac mae’n annog y disgyblion i ddarganfod cyfleodd er mwyn gwneud dewisiadau cadarnhaol ac i gadw’n ddiogel.

Adnoddau Athrawon

Disgrifiad Adnoddau Estynedig i Athrawon

Mae ‘Caught in Traffick’ wedi ei gynllunio fel adnodd i godi ymwybyddiaeth o fasnachu pobl. Mae’r ffilm yn canolbwyntio ar y gainc dan Caethwasiaeth Fodern sy’n cael ei adnabod fel masnachu mewnol ac mae’n dangos pa mor hawdd yw hi i gamfanteisio ar bobl ifanc. Trefnwyd yr adnodd hwn gan bobl ifanc Merthyr Tudful i bobl ifanc a chafodd ei lywio gan bartneriaid cymunedol yn ôl eu dealltwriaeth a’u profiadau proffesiynol o’r pwnc hwn.

Adnoddau Athrawon Estynedig

Adnoddau Athrawon Estynedig

Caught_in_Traffick
Fideo ar gyfer Mac ac Manylder Uwch (HD)

Hidden Hurt (S)

CA3

Disgrifiad Gwers

Gwna’r wers hon ddefnydd o DVD o’r enw Niwed Cudd sydd yn ffocysu ar gwpl ifanc or enw Carys a Rhys a’u perthynas. Mae’r wers yn helpu pobl ifanc i ddeall am y gwahanol fathau o gamdrin domestig. Trwy weithgareddau rhyngweithiol cant eu grymuso i adnabod yr arwyddion rhybudd mewn perthynas cam-drin. Defnyddir senarios er mwyn helpu disgyblion i nodi ble i gael mynediad i gymorth a chefnogaeth.

Adnoddau Athrawon

Why Weapons? (S)

CA3

Disgrifiad Gwers

Drwy ddefnyddio amrywiaeth o weithgareddau a symbyliadau, gan gynnwys DVD, mae disgyblion yn dysgu deall peryglon a chanlyniadau cario arfau. Mae’r wers hefyd yn bwriadu codi ymwybyddiaeth am sefyllfaoedd peryglus a pheryglon posibl y gall pobl ifanc eu hwynebu yn eu bywydau bob dydd pryd bynnag y maent o fewn cyrraedd arfau, deall y gyfraith ynglŷn ag arfau (yn arbennig cyllyll a gynnau) mewn mannau cyhoeddus, ar dir ysgol ac ymateb yr heddlu ac ystyried beth yw arf cyfreithlon ac anghyfreithlon a chanlyniadau cario arfau o’r fath.

Adnoddau Athrawon

Personal Safety (S)

CA3

Disgrifiad Gwers

Mae disgyblion yn cael cyfle i drafod yr holl ffyrdd y gellir defnyddo o'r Rhyngrwyd yn ddiogel. Hefyd, drwy ddefnyddio DVDs a gweithgareddau rhyngweithiol, rhybuddir nhw am y peryglon a rhoddir gwybodaeth iddynt ar sut i warchod eu hunain rhag perygl.

Adnoddau Athrawon

Just the Ticket (S)

CA3

Disgrifiad Gwers

Mae’r wers hon yn atgyfnerthu’r angen i deithio’n ddiogel ar drafnidiaeth ysgol, yn archwilio beth sy’n golygu ymddygiad anghyfrifol ac yn ystyried canlyniadau difrifol ymddwyn mewn ffordd beryglus. Mae amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys hunan feirniadaeth a gwaith grŵp, hefyd yn pwysleisio fod ufuddhau i reolau yn hanfodol ar gyfer eu diogelwch eu hunain ac eraill.

Adnoddau Athrawon

Olivia (S)

CA4

Disgrifiad Gwers

Ein gwers newydd “Olivia”.