Mae’r adnoddau a gweithgareddau canlynol wedi eu darparu gan ein partneriaid fel y gall athrawon eu defnyddio yn ystod Wythnos Gwrth-fwlio.. Mae’r adnoddau yma ar gael yn ystod yr Wythnos ond mae’n bosib eu defnyddio, fel rhan o gwricwlwm eich hysgol, ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.
Y partneriaid a gynrychiolir yw:
Mae’r adnodd wrth fwlio ar gail ar Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan: www.schoolbeat.org/teachers/behaviour-primary/ (gwers ‘Ffyn a Cherrig’) a www.schoolbeat.org/teachers/behaviour-primary/ (gwers ‘Torri’r Cylch’)
Mae pob asiantaeth, ynghyd â Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan wedi ymrwymo i fynd i’r afael â bwlio yng nghymuned yr ysgol ac mewn mannau eraill.
Mae Llywodraeth Cymru wedu paratoi llythrennau a phosteriau ar gyfer wythnos gwrth-fwlio, ar gael i lawrlwytho ar wefan Dysgu Cymru.
1.Caerdydd yn Erbyn Bwlio
Mae Caerdydd yn Erbyn Bwlio, tîm gwrth-fwlio ymroddedig Cyngor Caerdydd, yn gweithio mewn partneriaeth gydag ysgolion, elusennau, yr Heddlu, gwasanaethau pobl ifanc, rhieni a phobl ifanc er mwyn cefnogi plant a phobl ifanc sy'n profi bwlio neu'n bwlio eraill. Rydym yn cefnogi ysgolion a lleoliadau ieuenctid a chymunedol i ddarparu amgylcheddau diogel i blant a phobl ifanc, sy'n rhydd rhag bwlio. Nod CAB yw gweithio i leihau nifer yr achosion a chreu amgylcheddau cefnogol lle gall plant a phobl ifanc deimlo'n ddiogel.
2.Barnardo’s Cymru
Mae Barnardo's Cymru yn darparu 88 o wasanaethau ledled y wlad gan weithio gyda phlant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau yn eu cynorthwyo i greu gwell dyfodol.
Yn Barnardo’s, credwn mewn plant waeth beth fo’u:
Credwn yn y rhai sydd wedi cael eu cam-drin, y rhai agored i niwed, y rhai sydd wedi’u hanghofio a’u hesgeuluso. Byddwn yn eu cefnogi, yn sefyll i fyny drostynt a chanfod y gorau ym mhob plentyn. Beth bynnag fo’r broblem, credwn y gall y plant mwyaf agored i niwed, gyda’r cymorth iawn, cefnogaeth a rhywun i gredu ynddynt, weddnewid eu bywydau a chyflawni eu potensial. Mae’r rhan weithredol y mae plant a theuluoedd yn ei chwarae mewn datblygu ein gwasanaethau yn hollbwysig. Mae eu mewnbwn hwy yn ein cynorthwyo i ddarparu’r gwasanaethau sy’n diwallu eu hanghenion orau.
3.Changing Faces
Changing Faces yw prif elusen y DU sy’n cefnogi ac yn cynrychioli’r bobl gyda chyflyrau, creithiau neu farciau sy’n effeithio ar olwg eu hwynebau neu eu cyrff. Rydym yn ceisio galluogi pawb, p’un a yw’r effaith arnynt yn uniongyrchol ai peidio, i wynebu anffurfiad yn hyderus.
4. SJ Education Consultancy
Mae SJ Education Consultancy yn darparu cyngor, cefnogaeth a hyfforddiant arbenigol er mwyn cynorthwyo ysgolion a gweithwyr proffesiynol i ddatblygu ethos ataliol cadarnhaol er mwyn eu cynorthwyo i nodi, ymateb a lleihau achosion o ymddygiad bwlio yn eu lleoliadau. Gan gynnig cyfres o weithdai a digwyddiadau hyfforddi sy’n addas i’w defnyddio mewn ysgolion gyda myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol, gall SJ education Consultancy addasu’r digwyddiadau i ddiwallu anghenion a gofynion yr unigolyn.