Rydych chi yma: Disgyblion > 11-14 Oed > Edifar y Dydd

Edifar y Dydd

Ffaith Allweddol

Beth yw cyffur?

Cyffur yw rhywbeth sy'n newid y ffordd y mae eich meddwl a'ch corff yn gweithio.

Cyngor PC James

Gair o Gyngor

Cofiwch

  • Nid oes sicrwydd am gynnwys cyffuriau anghyfreithlon. Mae pobl wedi prynu cyffuriau ac wedi darganfod bod y tabledi yn cynnwys gwenwyn llygod, powdwr talcwm, llwch briciau ac ati.
  • Mae ffrindiau sy'n eich annog i gymryd cyffuriau yn rhoi eich dyfodol mewn perygl.
  • Gall euogfarn cyffuriau leihau eich rhagolygon am swydd, eich stopio rhag gweithio â phlant, eich atal rhag teithio i rai gwledydd tramor a bydd canlyniadau i chi, eich teulu a'ch ffrindiau. Er enghraifft, gallai effeithio ar eich hunan barch, iechyd, enw da, rhyddid a gallech golli eich ffrindiau.
  • Ffoniwch Dan 24/7. Gallant roi gwybodaeth gyfrinachol a chyngor i chi dros y ffôn. Mae am ddim ac ar agor 24 awr y dydd.

Pethau i Wneud i Chi Feddwl!

Meddai PC Jones:

Mae cael eich dal ym meddiant cyffuriau yn drosedd ddifrifol.

Bydd euogfarn cyffuriau yn aros gyda chi am byth.

Os ydych rhwng 10 a 17 mlwydd oed (cynhwysol) ac yn cyfaddef i'r drosedd:

  • y tro cyntaf rhoddir o leiaf gerydd i chi;
  • yr ail waith cewch rybudd terfynol;
  • gyda'r trydydd drosedd cewch eich cyhuddo.

Fodd bynnag, bydd y gosb yn amrywio yn ôl difrifoldeb y drosedd: dosbarth cyffur, ai meddiant neu gyflenwi.

Cyflwyniad

Bydd eich swyddog heddlu ysgol yn eich helpu i ddeall canlyniadau meddiannu ar a chyflenwi cyffur anghyfreithlon.

Cwestiwn ac Ateb

Cwestiwn: A all swyddogion heddlu fy stopio a'm chwilio i ar unrhyw adeg?
Ateb: Gallant, os ydynt yn amau eich bod yn cario cyffuriau, arfau neu nwyddau a ddygwyd mae ganddynt yr hawl i'ch stopio a'ch chwilio.
Cwestiwn: I ble allaf fynd am help yn lleol?
Ateb: Gellir dod o hyd i wybodaeth am asiantaethau cefnogaeth lleol yn yr adran athrawon o dan y pennawd llinellau cymorth.
Cwestiwn: Beth yw'r gwahaniaeth rhwng bod ym meddiant a chyflenwi?
Ateb: Golyga bod ym meddiant gael eich dal â swm bychan o gyffuriau ar gyfer defnydd personol, tra bod cyflenwi yn golygu gwerthu neu roi cyffuriau anghyfreithlon.

Gwyddor Gwybodaeth am Gyffuriau

Am gymorth ynglŷn â chyffuriau, ffôniwch Dan 24/7 ar

0808 808 2234

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o llinellau tir.

Mae cost galwad o ffôn symudol yn amrywio gan ddibynnu ar eich darparwr.

dan247.org.uk/Default_Wales.asp

Os oes angen help arnoch, ffôniwch ChildLine ar

0800 1111

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o ffônau symudol a llinellau tir.

Ni fydd y rhif yn ymddangos ar filiau ffôn.

Os ydych angen riportio trosedd, galwch CrimeStoppers ar

0800 555 111

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o llinellau tir.

Mae cost galwad o ffôn symudol yn amrywio gan ddibynnu ar eich darparwr.