Edrychwch Pwy Sy’n Siarad

Ffaith Allweddol

Beth allaf ei wneud i aros yn ddiogel ar y Rhyngrwyd?

Peidiwch â rhoi eich manylion personol i unrhyw un ar-lein.

Cyngor PC Jones

Bod yn SMART ar y Rhyngrwyd!

Bod yn SMART ar y Rhyngrwyd!

Saff

Arhoswch yn ddiogel drwy beidio byth â phostio gwybodaeth bersonol am eich hun na’ch cyfrinair.

Meddwl Eto

Gall cyfarfod â ffrindiau yr ydych dim ond yn eu hadnabod ar-lein fod yn beryglus. Nid ydych yn gwybod a yw person yn ddiogel i’w gyfarfod os nad ydych yn ei adnabod fel person go iawn. PEIDIWCH BYTH â mynd eich hun

Aros Funud

Gall derbyn negeseuon e-bost/ffeiliau o ffynhonnell nad ydych yn ei hadnabod arwain at broblemau. Gallant gynnwys firysau neu ddeunydd ffiaidd. Dylech eu dileu ar unwaith.

Rhaid Cofio

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi gosod eich gosodiadau preifatrwydd i gynnwys dim ond ffrindiau go iawn, gan y gall rhywun ddweud celwydd am bwy ydynt. Efallai na fydd gwybodaeth ar y Rhyngrwyd yn wir, gwiriwch hi bob amser.

Teimlo'n Annifyr

Dywedwch wrth riant, gofalwr neu oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddo os oes rhywun neu rywbeth yn gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus neu’n bryderus, neu os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn cael eich bwlio.

Gair o Gyngor

Cofiwch

  • Peidiwch â gwneud dim ar-lein na fyddech am i’ch rhieni ei weld neu glywed amdano.
  • I gadw eich hun yn ddiogel rhag cael eich hacio defnyddiwch gyfrinair ‘cadarn’, un sy'n anodd ei ddyfalu. Cynhwyswch brif lythrennau, rhifau a symbolau. Defnyddiwch wahanol gyfrineiriau ar gyfer gwahanol broffiliau a chyfrifon. (Gallech ddefnyddio'r un gair gyda gwahanol rifau ar y diwedd.) Peidiwch ag ysgrifennu eich cyfrinair neu ei gadw yn eich ffôn symudol.
  • Os defnyddiwch gyfrifiadur rhywun arall gwnewch yn siŵr eich bod wedi logio allan o'ch holl broffiliau cyn i chi adael.
  • Efallai y bydd rhai pobl yn sefydlu gwefannau ffug er mwyn ceisio cael pobl eraill i roi eu manylion personol arni. Gelwir hyn yn gwe-rwydo. Peidiwch â rhoi eich manylion oni bai bod symbol clo clap arno.
  • Bydd www.GetSafeOnline.org yn rhoi rhagor o gynghorion ar sut i aros yn ddiogel.

Pethau i Wneud i Chi Feddwl!

Meddai PC Jones:

Mae’r Rhyngrwyd yn arf gwych ar gyfer canfod unrhyw wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

  • Gall lawrlwytho rhai ffeiliau fod yn anghyfreithlon.
  • Mae llawer o wefannau rhannu ffeiliau anghyfreithlon yn cario firysau cyfrifiadur.
  • Os tybiwch y gallai cynnwys unrhyw negeseuon fod yn anghyfreithlon, megis gwefannau casineb hiliol neu luniau o blant yn dioddef camdriniaeth, gallwch ei riportio i’r CEOP drwy glicio'r botwm Riportio Cam-drin. CEOP yw asiantaeth y Llywodraeth sy’n gweithio’n benodol i amddiffyn plant ar-lein.
  • Os byddwch yn postio neu’n anfon unrhyw ffotograffau amhriodol o'ch ffrindiau neu bobl eraill ar-lein gallech wynebu cyhuddiad troseddol. Os ceir chi yn euog bydd eich enw’n cael ei ychwanegu at y Gofrestr Troseddwyr Rhyw.

Byddwch yn ofalus wrth syrffio;
"Mae siarcod y Rhyngrwyd yn llechu yno"!

Os ydych yn teimlo’n anniogel neu angen help pan fyddwch yn defnyddio’r rhyngrwyd, riportiwch ef ar

ceop.police.uk/safety-centre

Cyflwyniad

Bydd eich swyddog ysgol yn eich helpu i ddysgu sut i ddefnyddio’r Rhyngrwyd yn ddiogel.

Cwestiwn ac Ateb

Cwestiwn: Ble yw’r lle gorau i gadw fy nghyfrifiadur?
Ateb: Cadwch ef mewn ystafell y mae’r teulu’n ei rhannu, megis y lolfa, fel y gall oedolyn cyfrifol wneud yn siŵr eich bod yn ddiogel.
Cwestiwn: Mae ffrind ar-lein wedi gwneud i mi deimlo’n anghyfforddus yn ddiweddar drwy wneud awgrymiadau amhriodol. Beth ddylwn ei wneud?
Ateb: Dechreuwch drwy gadw’r sgwrs, blocio’r person ac yna clicio’r botwm "riportio cam-drin y CEOP". Hefyd dywedwch wrth oedolyn cyfrifol. Bydd hyn yn ei stopio.
Cwestiwn: Beth allaf ei wneud os caf i neges gas?
Ateb: Gelwir hyn yn fwlio seiber ac nid yw’n iawn. Nid eich bai chi ydyw byth. Rhaid i chi ddweud wrth oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddo. Cadwch gofnod o’r holl negeseuon yr ydych wedi eu derbyn fel tystiolaeth.
Cwestiwn: Sut allaf osgoi cael firysau ar-lein?
Ateb:
  • Peidiwch ag agor negeseuon e-bost a ddaw o ffynonellau nad ydych yn eu hadnabod.
  • Osgowch wefannau rhannu ffeiliau.
  • Peidiwch â chlicio ar naidlenni.
  • Cofiwch agor dim ond ffeiliau cerddoriaeth, lluniau neu fideos gan bobl yr ydych yn ymddiried ynddynt.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw eich meddalwedd gwrth-firws yn gyfoes.
Cwestiwn: Sut allaf atal rhywun rhag anfon negeseuon gwib ataf?
Ateb: Os ydych eisiau atal rhywun rhag anfon negeseuon gwib atoch gallwch naill ai flocio neu ddileu eu cyfeiriadau. Fel arfer, byddwch yn gwneud hyn drwy glicio dde ar eu heicon negesydd a dewis ‘delete’ neu ‘block’. Pa bynnag ffordd a ddewiswch ni fyddant yn gallu anfon negeseuon atoch mwyach.
Cwestiwn: Beth allaf i wneud os caiff fy nghyfrif Rhyngrwyd ei hacio?
Ateb: Newidiwch eich cyfrinair ar unwaith, neu dilëwch eich cyfrif a dechrau un newydd. Gallwch hefyd anfon e-bost i’r wefan a gofyn iddi gau eich cyfrif. Dywedwch wrth eich teulu a’ch ffrindiau beth sydd wedi digwydd fel eu bod yn gwybod nad chi oedd yn anfon negeseuon.

Os ydych yn teimlo’n anniogel neu angen help pan fyddwch yn defnyddio’r rhyngrwyd, riportiwch ef ar

ceop.police.uk/safety-centre

Am gymorth ynglŷn â chadw’n ddiogel ar-lein, edrychwch ar

thinkuknow.co.uk

Mae MEIC yn wasanaeth llinell gymorth newydd i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru.

0808 80 23456

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o llinellau tir.

Mae cost galwad o ffôn symudol yn amrywio gan ddibynnu ar eich darparwr.

meiccymru.org/cy

Os oes angen help arnoch, ffôniwch ChildLine ar

0800 1111

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o ffônau symudol a llinellau tir.

Ni fydd y rhif yn ymddangos ar filiau ffôn.