Cwestiwn: Beth ydw i’n ei wneud os yw fy ffrind yn cael ei fwlio neu ei bwlio?
Ateb: Rhowch gefnogaeth iddynt a chadwch lygad amdanynt fel nad ydynt ar eu pen eu hun gyda’r bwli. Anogwch nhw i ddweud wrth rywun y maent yn ymddiried ynddo neu ffonio Childline 0800 1111.
Cwestiwn: Pa fath o ymddygiad sy’n cael ei ystyried yn fwlio?
Ateb: Mae’n cynnwys cicio, pwnio, galw enwau, dwyn eiddo pobl eraill, negeseuon tecst cas, peidio â gadael i rywun ymuno mewn gweithgaredd, galw enwau ar bobl oherwydd eu bod yn edrych yn wahanol (gwahaniaethu yw hyn) neu wneud sylwadau hiliol neu homoffobig.
Cwestiwn: Beth yw bwlio homoffobig?
Ateb: Mae hwn yn fwlio oherwydd anhoffter neu ofn rhywun sy’n lesbiaid, hoyw, deurywiol neu drawsrywiol (LGBT). Gall hefyd effeithio ar bobl sydd ddim yn LGBT, ond y credir eu bod gan eraill oherwydd y ffordd y maent yn gwisgo, siarad neu ymddwyn. Gelwir hyn yn stereoteipio. Mae dioddefwyr wedi dioddef bwlio geiriol neu aflonyddwch, wedi eu brawychu neu wedi dioddef ymosodiad corfforol. Os ydynt yn ddifrifol gellir categoreiddio’r gweithredoedd hyn fel troseddau casineb, sy’n weithred droseddol.