Teithio ar y Bws

Ffaith Allweddol

Beth alla’i ei wneud i'm helpu i aros yn ddiogel ar drafnidiaeth ysgol?

Dilyn y Côd Ymddygiad Teithio.

Gair o Gyngor

Cofiwch

  • Ymddwyn yn dda ar hyd y daith.
  • Gwisgo eich gwregys diogelwch bob amser.
  • Peidio byth â thynnu sylw'r gyrrwr.
  • Gwrando ar gyfarwyddiadau'r gyrrwr bob amser.
  • Parchu cyd-deithwyr.
  • Parchu cerbydau ac eiddo.
  • Cadw at y gyfraith bob amser.
  • Peidio byth â gollwng sbwriel.
  • Trin eraill yr un fath ag yr hoffech chi gael eich trin.
  • GWISGWCH EICH GWREGYS DIOGELWCH BOB AMSER.

Pethau i Wneud i Chi Feddwl!

Meddai PC Jones:

Mae rheolau i'w cael i'ch cadw'n ddiogel.

  • Gall disgyblion sy'n camymddwyn ar drafnidiaeth ysgol gael ASBO.
  • Gall rhieni orfod arwyddo cytundeb sy'n sicrhau ymddygiad da gan eu plant ar drafnidiaeth ysgol. Gallai torri'r cytundeb hwn olygu y gallech gael eich gwahardd rhag teithio ar y bws am gyfnod o amser.
  • Gall disgyblion wynebu cosb bellach yn yr ysgol am ymddygiad gwael ar y bws.
  • Erbyn hyn ceir teledu cylch cyfyng ar y rhan fwyaf o fysiau ysgol ac fe'u defnyddir i gynorthwyo mewn unrhyw erlyn ffurfiol.
  • Caiff disgyblion sy'n camymddwyn eu symud oddi ar y bws gan y gyrrwr a bydd rhaid iddynt barhau eu taith ar droed. Dim ond 7/10 rhan o eiliad sydd angen i gael damwain angheuol mewn cerbyd yn teithio ar gyflymder o 60mya.

Y Côd Ymddygiad wrth Deithio

Côd Ymddygiad wrth Deithio

Mae eich diogelwch yn bwysig iawn. Rhaid i chi ymddwyn yn gyfrifol ac yn ddiogel wrth deithio i'r ysgol neu'r coleg ac oddi yno p'un ai ydych chi’n defnyddio bws, trên neu dacsi neu'n beicio neu'n cerdded neu'n defnyddio unrhyw ddull arall. Os byddwch chi'n defnyddio'r bws i fynd i'r ysgol neu'r coleg mae'n rhaid i chi ddilyn y rheolau yn y Côd Ymddygiad wrth Deithio ar Fysiau Ysgol.

Os nad ydych yn dilyn y Côd hwn, er eich diogelwch chi eich hun a diogelwch pobl eraill, gall yr awdurdod lleol, yr ysgol a'r coleg gymryd camau yn eich erbyn. Gall hyn olygu tynnu eich hawl i gael cludiant i'r ysgol oddi arnoch chi a hyd yn oed eich gwahardd o'r ysgol.

Eich Cyfrifoldeb

  • Parchwch bobl eraill bob amser, gan gynnwys disgyblion eraill, y gyrwyr a'r cyhoedd.
  • Parchwch y cerbydau a'r eiddo sydd ynddynt bob amser.
  • Byddwch yn gwrtais bob amser.
  • Peidiwch byth â thaflu sbwriel ar hyd y lle.
  • Rhaid i chi ufuddhau i'r gyfraith bob amser.

Eich Diogelwch

  • Rhaid i chi ymddwyn yn dda bob amser wrth deithio.
  • Rhaid i chi ddilyn cyfarwyddyd y gyrrwr bob amser wrth deithio.
  • Peidiwch â thynnu sylw'r gyrrwr.
  • Croeswch y ffordd yn ddiogel ac mewn modd synhwyrol bob amser.
  • Defnyddiwch lwybr diogel wrth deithio bob amser.

Eich Hawliau

  • Bod yn ddiogel wrth deithio.
  • Cael eich trin yn deg a chyda pharch.
  • Dweud wrth rywun os yw rhywun neu os oes rhywbeth yn achosi problemau i chi.
  • Peidio â chael eich bwlio neu eich poeni.

Ewch at athro, eich rhieni neu yrrwr y bws i ddweud am unrhyw achosion o gamymddwyn neu fwlian y byddwch yn eu gweld.

Cyflwyniad

Bydd eich swyddog ysgol yn eich helpu i ddysgu sut i deithio yn ddiogel ar drafnidiaeth ysgol.

Cyngor PC James

Cwestiwn ac Ateb

Cwestiwn: Beth yw'r Côd Ymddygiad Teithio?
Ateb: Dogfen ydyw sy'n rhoi cyngor ar sut y dylai disgyblion ymddwyn wrth deithio ar drafnidiaeth ysgol.
Cwestiwn: Pwy ddylai wisgo gwregys diogelwch?
Ateb: Y gyrrwr a phob teithiwr.
Cwestiwn: Oes rhaid i mi wisgo gwregys diogelwch?
Ateb:

Mae gwregysau diogelwch yn ofynnol yn ôl y gyfraith, gan eu bod yn achub bywydau. Os nad ydych’n gwisgo gwregys mewn gwrthdrawiad, rydych yn llawer mwy tebygol i gael eich brifo ac anafu pobl eraill.

  • Dywed y ddeddf os ydych dros 135cm o daldra mae'n rhaid i chi wisgo gwregys oedolyn.
  • Os ydych o dan 135cm mae'n rhaid i chi ddefnyddio clustog hybu i’ch galluogi i wisgo gwregys diogelwch oedolyn.
Cwestiwn: A yw pob damwain ffordd yn ddamwain mewn gwirionedd?
Ateb: Na - gallai bron pob damwain ffordd fod wedi cael ei hosgoi. Dengys ymchwil y gellid bod wedi atal 95% o ddamweiniau.
Cwestiwn: Beth ddylwn i wneud os wyf yn teimlo'n anniogel wrth deithio ar drafnidiaeth ysgol?
Ateb: Gwnewch yn siŵr eich bod yn riportio unrhyw gamymddwyn i'r gyrrwr neu eich athro neu athrawes a dywedwch wrth eich rhieni os oes rhywun yn eich poeni.

Os ydych angen riportio trosedd, galwch CrimeStoppers ar

0800 555 111

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o llinellau tir.

Mae cost galwad o ffôn symudol yn amrywio gan ddibynnu ar eich darparwr.