Cwestiwn: Rwy’n mynd i'r dref ar fy mhen fy hun gyda ffrind i siopa. Rydw i ychydig yn nerfus gan i mi glywed am fachgen o fy ysgol i yn cael ei fygio gan rywun oedd eisiau ei ffôn. Beth ddylwn i wneud pe bai rhywun yn ceisio dwyn fy ffôn neu fy arian?
Ateb:
- Cadwch eich ffôn wedi ei chuddio a dim ond ei ddefnyddio os oes rhaid i chi.
- Osgowch fannau peryglus fel tanlwybrau neu fannau ynysig.
- Peidiwch â chario eitemau gwerthfawr ar eich person; yn ddelfrydol cadwch eich arian mewn gwregys arian.
- Y bagiau gorau i'w cario yw rhai â strap hir y gellir eu gwisgo ar draws eich corff.
- Ildiwch eich bag, pwrs, waled neu ffôn yn hytrach nag ymladd. Gallwch gael eitemau newydd ond ni allwch gael ‘chi’ newydd.
- Ewch i fan ddiogel fel siop a gofynnwch am help a riportiwch unrhyw ladrad i'r heddlu a chysylltwch â'ch teulu.
Cwestiwn: Rwy'n mynd i barti mewn tŷ ar y penwythnos, sut allaf fwynhau fy hun a chadw’n ddiogel?
Ateb:
- Gwnewch yn siŵr bod eich rhieni/gofalwyr yn gwybod lle rydych chi'n mynd i fod a sut yr ydych yn bwriadu dod adref.
- Peidiwch â cherdded adref ar eich pen eich hun.
- Peidiwch byth â derbyn lifft gan unrhyw un sydd wedi bod yfed alcohol.
- Cadwch gyda'ch ffrindiau.
- Os oes alcohol ar gael cofiwch mai dim ond 5 munud y mae’n ei gymryd iddo fynd i'ch gwaed.
- Gelwir yfed llawer mewn cyfnod byr o amser yn yfed sbri ac mae’n eich rhoi mewn perygl gan ei fod yn effeithio ar sut mae eich meddwl a'ch corff yn gweithio.
- Bydd pobl yn aml yn difaru gwneud y penderfyniadau a wnânt o dan ddylanwad alcohol.
- Peidiwch â derbyn diodydd gan eraill os nad ydych yn gwybod beth sydd ynddynt.
- Peidiwch â gadael diod heb ei warchod, gallai gael ei sbeicio.
- Byddwch yn gyfrifol, cynlluniwch yn effeithiol ac fe gewch y math cywir o hwyl.
- Cofiwch, dywed y gyfraith bod yn rhaid i chi fod yn 18 oed a throsodd i brynu alcohol.