Rydych chi yma: Disgyblion > 11-14 Oed > Niwed Cudd

Niwed Cudd

Ffaith Allweddol

Pryd fydd perthynas ddim yn ddiogel?

Os yw’n cynnwys unrhyw ddigwyddiad sy'n ymddygiad bygythiol, trais neu gam-drin rhwng oedolion sydd yn neu sydd wedi bod yn bartneriaid agos, neu aelodau teulu beth bynnag fo’u rhyw.

Cyngor PC Blake

Gair o Gyngor

Cofiwch

  • Nid oes gan unrhyw un yr hawl i’ch brifo neu eich gorfodi i wneud unrhyw beth sy’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus.
  • Os ydych yn cael eich bwlio neu’ch cam-drin peidiwch â dioddef yn dawel, dywedwch wrth rywun yr ydych yn ymddiried ynddo.
  • Osgowch fod mewn sefyllfa lle rydych ar eich pen eich hun gyda’r bwli/person sy’n cam-drin.
  • Cofiwch bob amser, nid eich bai chi ydyw byth.
  • Os bydd eich ffrind yn ymddiried ynoch cytunwch ar gôd y gallan nhw decstio atoch mewn argyfwng. Cytunwch ar ddull o weithredu os ceir argyfwng (er enghraifft, gallech addo galw’r heddlu os byddan nhw’n tecstio’r gair côd atoch).
  • Mae gan bawb yr hawl i deimlo’n ddiogel.

Pethau i Wneud i Chi Feddwl!

Meddai PC Jones:

Cam-drin domestig yw patrwm o ymddygiad sy’n ailadrodd a gall fod ar wahanol ffurfiau:

  • Mae cam-drin seicolegol yn ddychryn neu’n fygwth rhywun.
  • Cam-drin rhywiol yw gwneud i rywun wneud pethau rhywiol nad ydynt am eu gwneud.
  • Cam-drin ariannol yw gwirio ar beth mae rhywun yn gwario arian, cymryd eu harian oddi arnynt neu eu hamddifadu o arian neu ennill arian.
  • Cam-drin emosiynol yw pan fydd rhywun yn ceisio gwneud i chi deimlo’n ansicr, er enghraifft dweud pethau i’ch dychryn, eich bychanu neu achosi embaras i chi.
  • Cam-drin corfforol yw pan fydd rhywun yn eich brifo neu’n eich anafu’n fwriadol, er enghraifft taro, cicio, bwrw, taflu pethau atoch neu eich ysgwyd. Nid oes gan unrhyw un yr hawl i’ch brifo fel hyn.

Cyflwyniad

Bydd eich swyddog ysgol yn eich helpu i ddeall

  • beth sy’n gwneud perthynas ddiogel, a
  • beth yw cam-drin domestig a phwy all helpu.

Cwestiwn ac Ateb

Cwestiwn: Beth ddylwn ei wneud os bydd ffrind yn ymddiried ynof?
Ateb: Gwrandewch ar eich ffrind, bydd clust o gydymdeimlad yn helpu, dywedwch wrth rywun yr ydych yn ymddiried ynddynt fel eich rheini, athro neu swyddog heddlu ysgol, neu perswadiwch eich ffrind i fynd at asiantaeth gefnogaeth leol neu ffonio llinell gymorth genedlaethol.
Cwestiwn: A yw trais domestig yn drosedd?
Ateb: Ydy, a gall ddigwydd ar sawl ffurf, er enghraifft aflonyddu, ymosod, difrod troseddol, ymgais at lofruddiaeth, trais rhywiol neu garcharu ar gam. Mae dioddef ymosodiad, cam-drin rhywiol, bygythiad neu aflonyddwch gan bartner neu aelod o’r teulu yn gymaint o drosedd ag ydyw trais gan ddieithryn, ac yn aml mae’n fwy peryglus.

Os oes angen help arnoch, ffôniwch ChildLine ar

0800 1111

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o ffônau symudol a llinellau tir.

Ni fydd y rhif yn ymddangos ar filiau ffôn.

Linell Gymorth Byw Heb Ofn

0808 8010 800

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o llinellau tir.

Mae cost galwad o ffôn symudol yn amrywio gan ddibynnu ar eich darparwr.

Gallwch hefyd ffonio NSPCC Cymru ar

0808 100 25 24

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o llinellau tir.

Mae cost galwad o ffôn symudol yn amrywio gan ddibynnu ar eich darparwr.