Cyfraith Cyffuriau

Ffaith Allweddol

Beth yw cyffur?

Cyffur yw rhywbeth sy’n newid y ffordd y mae eich meddwl a’ch corff yn gweithio.

Cyngor PC Blake

Gair o Gyngor

Cofiwch

  • Mae cymryd cyffuriau anghyfreithlon yn beryglus gan nad oes sicrwydd o’r cynnwys. Mae pobl wedi cymryd cyffuriau ac wedi gweld bod y tabledi yn cynnwys powdr llyngyr cŵn, llwch brics ac ati.
  • Nid yw ffrindiau sy’n eich annog i gymryd cyffuriau yn ffrindiau mewn gwirionedd.
  • Gall meddyginiaethau ar bresgripsiwn eich helpu i wella, ond mae cymryd mwy na’r dos neu gymryd meddyginiaeth rhywun arall yn beryglus.
  • Os ydych yn gwybod bod rhywun yn cymryd cyffuriau, dywedwch wrth oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddo a dywedwch wrthynt am siarad â rhywun. Os na allant siarad ag un o’u rhieni, efallai bod perthynas arall y gallant siarad â hwy, neu efallai athro neu athrawes y maent yn ymddiried ynddynt.
  • Ffoniwch Dan 24/7. Gallant roi gwybodaeth gyfrinachol i chi a chyngor dros y ffôn. Mae am ddim ac ar agor 24 awr y dydd.

Dosbarthau Cyffur

Caiff cyffuriau anghyfreithlon eu rhannu’n 3 dosbarth: A, B ac C. Y cosbau uchaf yw:

Cyffuriau Dosbarth Meddiant Bwriad i Gyflenwi Cyflenwi
Steroidau Anabolig, Tawelyddion C 2 Flynedd 14 Blynedd a Dirwy 14 Blynedd a Dirwy
Amffetaminau (powdr neu dabledi), Barbitwradau, Canabis B 5 Mlynedd 14 Blynedd a Dirwy 14 Blynedd a Dirwy
Cocên, Amffetaminau (chwistrellu), Crac, Ecstasi, Heroin, LSD, Madarch Hud A 7 Mlynedd Carchaiad am oes a Dirwy Carchaiad am oes a Dirwy

Cyflwyniad

Bydd eich swyddog heddlu ysgol yn eich helpu i ddeall y cyfreithiau sy’n rheoli defnydd neu camddefnydd cyffuriau.

Cwestiwn ac Ateb

Cwestiwn: Beth mae cael eich dal ym meddiant yn ei olygu?
Ateb: Golyga hyn eich bod yn cael eich dal gyda swm bychan o gyffuriau ar gyfer eich defnydd personol.
Cwestiwn: Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y bwriad i gyflenwi a chyflenwi?
Ateb:

Bwriad i gyflenwi yw bod â swm mwy yn eich meddiant yr ydych yn bwriadu ei roi neu ei werthu i bobl eraill. Mae cyflenwi’n golygu gwerthu neu roi cyffuriau anghyfreithlon i ffwrdd.

Cwestiwn: Pa effaith all euogfarn am gyffuriau ei gael ar fy nyfodol?
Ateb:
  • Gall wneud i gyflogwr feddwl eilwaith cyn eich cyflogi.
  • Ni chewch weithio gyda phlant.
  • Ni allwch fynd dramor i nifer o wledydd.
  • Yn y dyfodol, gall fod yn anodd cael yswiriant car neu gartref.

Gwyddor Gwybodaeth am Gyffuriau

Os oes angen help arnoch, ffôniwch ChildLine ar

0800 1111

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o ffônau symudol a llinellau tir.

Ni fydd y rhif yn ymddangos ar filiau ffôn.

Am gymorth ynglŷn â chyffuriau, ffôniwch Dan 24/7 ar

0808 808 2234

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o llinellau tir.

Mae cost galwad o ffôn symudol yn amrywio gan ddibynnu ar eich darparwr.

dan247.org.uk/Default_Wales.asp

Os ydych angen riportio trosedd, galwch CrimeStoppers ar

0800 555 111

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o llinellau tir.

Mae cost galwad o ffôn symudol yn amrywio gan ddibynnu ar eich darparwr.