Rydych chi yma: Disgyblion > 14-16 Oed > COW

COW

Ffaith Allweddol

Beth yw gyrru diofal?

Gyrru heb ofal a sylw dyladwy a gyrru o dan y safon a ddisgwylir gan yrrwr cymwys a gofalus.

Cyngor PC Thomas

Gair o Gyngor

Cofiwch

  • Peidiwch BYTH â thynnu sylw'r gyrrwr.
  • Gwisgwch wregys diogelwch bob amser.
  • Peidiwch byth ag annog y gyrrwr i ddefnyddio ffôn symudol tra’n gyrru.
  • Peidiwch byth â derbyn lifft mewn cerbyd sy’n orlawn.
  • Os ydych yn deithiwr gwiriwch fod gan y gyrrwr gymwysterau llawn, ei fod yn gymwys ac yn ddiogel.
  • Peidiwch â derbyn lifft gan rywun sydd wedi bod yn yfed alcohol neu’n defnyddio cyffuriau cyn gyrru.

Pethau i Wneud i Chi Feddwl!

Meddai PC Jones:

  • Cofiwch faint o ffydd y mae teithiwr yn ei roi yn y gyrrwr.
  • Wrth deithio fel teithiwr ar gyflymder o 60mya bydd cerbyd yn symud 26 meter yr eiliad - sy'n cyfateb i 7 hyd car.
  • Dim ond 7/10 rhan o eiliad mae'n cymryd i farw mewn gwrthdrawiad ar 60mya.
  • Mae gwefryrru yn beryglus ac yn rhoi pawb mewn perygl.
Mae llawer ohonoch yn mynd i ddysgu gyrru yn fuan.

Cofiwch – bydd 20% o yrwyr sydd newydd lwyddo yn eu prawf gyrru yn cael gwrthdrawiad o fewn blwyddyn i basio’u prawf, ac mae un rhan o dair o’r rhai sy’n marw mewn gwrthdrawiadau traffig yng Nghymru yn yrwyr ifanc. Gellid osgoi 95% o bob damwain.

Cyflwyniad

Bydd eich swyddog heddlu ysgol yn eich helpu i ddeall canlyniadau tynnu sylw tra'n gyrru.

Cwestiwn ac Ateb

Cwestiwn: Pa fath o bethau all dynnu sylw gyrrwr wrth iddo ef / hi yrru?
Ateb: Bydd sŵn, cyffro neu gamymddygiad yn tynnu sylw’r gyrrwr o’r ffordd. Bydd tecstio, galwadau ffôn, pwysau gan gyfoedion, alcohol neu gyffuriau yn amharu ar ymwybyddiaeth y gyrrwr. Gall cerddwyr hefyd wrthdynnu sylw’r gyrrwr.
Cwestiwn: A yw cerbydau wedi'u cynllunio i gael gwrthdrawiad?
Ateb: Efallai bod ganddynt nodweddion diogelwch ond nid ydynt wedi'u cynllunio i gael gwrthdrawiad.
Cwestiwn: Beth yw'r Pump Marwol?
Ateb:

Ceir pum ymddygiad allweddol sydd wedi'u nodi fel prif achosion anafiadau difrifol ac angheuol o ganlyniad i wrthdrawiadau ffordd.

Y Pump Marwol yw:

  • Gyrru dan ddylanwad Alcohol a Chyffuriau,
  • Goryrru,
  • Dim yn gwisgo gwregys diogelwch,
  • Gyrru Diofal / Peryglus, a
  • Defnyddio ffonau symudol.
Cwestiwn: Beth yw'r gosb isaf am decstio a gyrru?
Ateb: Cosb benodedig o 60 punt ynghyd â thri phwynt cosb ar eich trwydded.

Os ydych angen riportio trosedd, galwch CrimeStoppers ar

0800 555 111

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o llinellau tir.

Mae cost galwad o ffôn symudol yn amrywio gan ddibynnu ar eich darparwr.