Rydych chi yma: Disgyblion > 14-16 Oed > Achub Fi!

Achub Fi!

Ffaith Allweddol

Beth yw amrywiaeth?

Deall bod pob person yn wahanol.

Cyngor PC Jackie

Gair o Gyngor

Cofiwch

  • Mae troseddau casineb yn groes i'r gyfraith.
  • Parchwch bobl eraill yn y gymuned waeth beth fo eu gwahaniaethau .
  • Dylech drin pawb yn deg.
  • Dylech bob amser drin pobl eraill fel y byddech chi'n disgwyl cael eich trin.
  • Meddyliwch bob amser sut y mae eich ymddygiad yn effeithio ar eraill.
  • Dewch i adnabod pobl cyn eu barnu.
  • Gwnewch ymdrech i ddeall gwahaniaethau pobl eraill.
  • Ceisiwch roi eich hun yn sefyllfa rhywun arall.

Pethau i Wneud i Chi Feddwl!

Cwestiwn:

Rydw i newydd ddarllen graffiti ar wal tŷ cymydog sy'n dweud, “Hoywon allan - dim ond dynion go iawn yma!”

Rwy'n credu bod hyn yn drosedd casineb ond nid yw fy nghymydog am wneud ffws a'i riportio.

Ateb:

Meddai PC Jones:

Drwy awgrymu bod eich cymydog ddim yn ddyn go iawn oherwydd ei wahaniaeth, mae rhywun yn stereoteipio dynion hoyw ac yn mynegi rhagfarn negyddol cryf tuag atynt yn byw yn y gymuned. Rydych yn iawn; mae hyn yn drosedd casineb a dylid ei riportio i'r heddlu.

Cyflwyniad

Bydd eich swyddog heddlu yn eich helpu i ddeall sut i werthfawrogi amrywiaeth ddiwylliannol a chyfle cyfartal a pharchu urddas pawb.

Cwestiwn ac Ateb

Cwestiwn: A ddylai rhai pobl gael eu trin yn wahanol oherwydd nad ydynt yr un fath â mi?
Ateb: Dylai pawb gael eu trin yr un fath ac yn deg er gwaethaf unrhyw wahaniaethau mewn crefydd, rhyw, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant, hil neu oedran.
Cwestiwn: Beth ddylwn i wneud os gwelaf rywun yn brifo person arall am eu bod yn wahanol?
Ateb: Dylwch ddweud wrth oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddo, neu os yw’n ddigwyddiad difrifol dylech ffonio 999. Mae'n bwysig cofio bod brifo rhywun oherwydd eu bod yn wahanol yn gallu bod yn drosedd casineb.
Cwestiwn: Beth yw trosedd casineb?
Ateb: Unrhyw ddigwyddiad a welir fel tramgwydd troseddol gan y dioddefwr neu unrhyw berson arall, a achoswyd gan ragfarn neu gasineb.

Os oes angen help arnoch, ffôniwch ChildLine ar

0800 1111

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o ffônau symudol a llinellau tir.

Ni fydd y rhif yn ymddangos ar filiau ffôn.

Os ydych angen riportio trosedd, galwch CrimeStoppers ar

0800 555 111

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o llinellau tir.

Mae cost galwad o ffôn symudol yn amrywio gan ddibynnu ar eich darparwr.

Gallwch hefyd ffonio NSPCC Cymru ar

0808 100 25 24

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o llinellau tir.

Mae cost galwad o ffôn symudol yn amrywio gan ddibynnu ar eich darparwr.