Chwarae’n Ddiogel

Ffaith Allweddol

Pam mae chwarae’n ddiogel yn bwysig?

Mae’r rhan fwyaf o blant yn chwarae’n ddiogel ac nid ydynt yn mynd i berygl. Weithiau mae chwarae mewn mannau anniogel yn beryglus.

Fideo: Meddai Tarian

Odlau Rap

Gair o Gyngor

Cofiwch

  • Gofynnwch i'ch rhieni a yw hynny’n iawn cyn eich bod yn mynd allan i chwarae.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth eich rhieni
    • ble rydych yn mynd i chwarae,
    • pwy fydd gyda chi, a
    • beth ydych chi’n mynd i’w wneud.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut y byddwch yn cyrraedd yno a sut y byddwch yn dod adref.

Cyflwyniad

Bydd Tarian yn eich helpu i ddysgu

  • am fannau diogel ac anniogel i chwarae ynddynt,
  • sut i chwarae’n ddiogel, a
  • beth i’w wneud pan fyddwch yn teimlo’n anniogel pan fyddwch yn chwarae.

Cwestiwn ac Ateb

Cwestiwn: Beth ddylwn wneud os yw fy ffrindiau am chwarae yn rhywle sy’n anniogel?
Ateb: Penderfynwch chi eich hun. Gallwch ddweud na!
Cwestiwn: A yw’n iawn i mi fynd i ffwrdd a chwarae ar fy mhen fy hun?
Ateb: Na. Mae’n well aros gyda’ch gilydd - chwaraewch gydag o leiaf un person arall pryd bynnag y bo hynny’n bosibl.
Cwestiwn: Beth ddylwn ei wneud os yw rhywbeth yn teimlo’n anghywir?
Ateb: Dibynnwch ar eich teimladau; os yw rhywle neu rywbeth yn teimlo’n anniogel yna mae’n debygol o fod yn beryglus.
Cwestiwn: Beth ddylwn ei wneud os af ar goll tra byddaf allan yn chwarae?
Ateb: Mynd i le cyfarwydd, fel siop a gofyn i’r siopwr am help.
Cwestiwn: Beth ddylwn ei wneud os byddaf yn gweld un o’m ffrindiau yn gwneud rhywbeth peryglus?
Ateb: Gofyn iddynt stopio. Dywedwch wrth oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddo ar unwaith.