Cwestiwn: Beth ddylwn ni ei wneud os ydy un oedolyn yn brifo un arall adref?
Ateb: Cofiwch
- Nid eich bai chi yw hyn
- Peidiwch byth mynd i ganol yr oedolion
- Edrychwch am le diogel i guddio
- Dywedwch wrth oedolyn yr ydych yn ymddiried yn.
- Mewn argyfwng ffoniwch 999.
Cwestiwn: A ydw i yn mynd i ymddwyn fel yma pan fyddaf wedi tyfu i fyny?
Ateb:
- Cofiwch eich bod yn gyfrifol am eich ymddygiad eich hun ac fe allwch ddewis peidio copio yr ymddygiad anniogel yn eich cartref
- Os ydych yn poeni neu’n ofnus siaradwch gydag oedolyn yr ydych yn ymddiried yn
Cwestiwn: Beth yw cam-drin domestig?
Ateb: Cam-drin domestig yw pan mae oedolyn yn brifo oedolyn arall yn aml drwy, daro, anwybyddu, galw enwau neu drwy daflu pethau.
Cwestiwn: Mae fy rhieni bob amser yn cweryla ac ymladd. Pwy alla i fynd at am help?
Ateb:
- Athro
- Oedolyn yr ydych yn ymddiried yn
- Eich Swyddog Heddlu Cymunedol Ysgolion
Neu ffoniwch
- MEIC - 080880 23456
- Childline - 0800 11 11
Cwestiwn: Ydy cam-drin domestig yn erbyn y gyfraith?
Ateb: Ydy ac mae’r Heddlu yn ei ystyried yn fater difrifol. Mae gan bob plentyn yr hawl i fod yn ddiogel yn eu cartref.