Pwy? Beth? Ble? Cymrwch Ofal!

Ffaith Allweddol

Beth yw cyffur?

Cyffur yw rhywbeth sy’n newid y ffordd y mae eich meddwl a’ch corff yn gweithio.

Fideo: Meddai Tarian

Gair o Gyngor

Cofiwch

  • Cadwch foddion mewn lle diogel.
  • Dylech ond cymryd moddion gan oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddo.
  • Peidiwch â chyffwrdd dim byd nad ydych yn sicr ohono.
  • Peidiwch â chyffwrdd unrhyw nodwyddau na chwistrellwyr.

Cyflwyniad

Bydd Tarian yn eich helpu i ddysgu

  • rheolau diogelwch ynglŷn â moddion.
  • Mae moddion yn gyffuriau a rhaid eu cadw mewn lle diogel.
  • Dim ond oedolyn yr ymddiriedir ynddo ddylai roi moddion i chi.

Cwestiwn ac Ateb

Cwestiwn: Pwy all roi moddion?
Ateb: Fy rhieni, athro, athrawes, nyrs a meddyg.
Cwestiwn: Allaf i gymryd moddion fy mrawd?
Ateb: Na, peidiwch byth â chymryd moddion rhywun arall.
Cwestiwn: Beth ddylwn ei wneud os dof o hyd i foddion neu chwistrellwr?
Ateb: Dywedwch wrth oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddo.