Rydych chi yma: Disgyblion > 7-11 Oed > Cerrig a Ffyn

Cerrig a Ffyn

Ffaith Allweddol

Beth yw bwlio?

Bwlio yw pan fydd rhywun yn eich brifo, eich bygwth neu’n eich dychryn yn rheolaidd.

Fideo: Meddai Tarian

Gair o Gyngor

Cofiwch

  • Nid oes gan unrhyw un yr hawl i’ch brifo neu gwneud i chi deimlo’n drist.
  • Os ydych yn cael eich bwlio, dywedwch wrth rywun ar unwaith, fel eich athro, athrawes neu ofalwr neu eich swyddog heddlu ysgol.
  • Peidiwch ag ymladd yn ôl, fe allech fynd i drafferthion.
  • Pan fo hynny’n bosibl, cadwch draw oddi wrth fwlis.
  • Os ydych yn teimlo’n anniogel, ceisiwch gadw gyda grŵp o ffrindiau a fydd yn edrych ar eich ôl.
  • Cofiwch, fe fydd rhywun yn barod i’ch helpu bod amser.

Odlau Rap

Gall cerrig neu ffon roi briw i’ch bron,

Ond geiriau ni wnânt eich niweidio.

Os byddwch drist oherwydd bwlis creulon,

Mae’n bwysig dweud wrth eich athrawon!

Bwlis sy’n ceisio ein brifo,

Cael ofn ganddynt wanwn;

Mae angen dweud wrth fwlis nawr,

Nad yw bwlio’n iawn!

Cyflwyniad

Bydd Tarian yn eich helpu i ddysgu

  • beth yw bwlio,
  • effeithiau bwlio,
  • pam fod pobl yn bwlio, a
  • at bwy i droi am help.

Cwestiwn ac Ateb

Cwestiwn: Pa fathau fwlio sydd i’w cael?
Ateb: Gall fod yn daro rhywun, sbwylio gwaith, anfon negeseuon cas, cymryd arian, gwneud hwyl am ben rhywun, neu anwybyddu rheolaidd. Cofiwch, gall ddigwydd i unrhyw un, nid eu bai hwy yw e byth.
Cwestiwn: Pam fod pobl yn bwlio?
Ateb: Efallai eu bod yn genfigennus, yn chwilio am sylw neu eisiau i bobl eraill fod eu hofn. Efallai eu bod wedi cael eu bwlio eu hunain, neu eu bod yn teimlo’n anhapus gyda’u bywyd. Gall bwlis ddod yn gaeth i’r pŵer a’r rheolaeth sydd ganddynt dros eraill.
Cwestiwn: Beth ddylwn ei wneud os gwelaf rywun yn cael ei fwlio?
Ateb: Dywedwch wrth oedolyn ar unwaith, oherwydd dylech bob amser helpu. Peidiwch â cheisio delio â’r bwlis ar eich pen eich hun.
Cwestiwn: Beth allai canlyniadau bwlio fod?
Ateb: Gall cael eich bwlio beri pryder mawr. Mae’n ddifrifol iawn, oherwydd fel oedolyn gallai bwli fod yn torri’r gyfraith.

Os oes angen help arnoch, ffôniwch ChildLine ar

0800 1111

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o ffônau symudol a llinellau tir.

Ni fydd y rhif yn ymddangos ar filiau ffôn.