Sylweddau Sinistr

Ffaith Allweddol

Beth yw cyffur?

Cyffur yw rhywbeth sy’n newid y ffordd y mae eich meddwl a’ch corff yn gweithio.

Fideo: Meddai Tarian

Gair o Gyngor

Cofiwch

  • Mae sigaréts, alcohol a thoddyddion yn gemegau peryglus, sy’n ddrwg i’ch iechyd.
  • Dywed y gyfraith na all siopwyr werthu sigaréts, alcohol neu doddyddion i chi os ydych dan 18 oed.
  • Mae’n groes i’r gyfraith i ysmygu mewn mannau cyhoeddus oherwydd yr effaith a gaiff ar bobl eraill.

Odlau Rap

Ysmygu, yfed a chymryd cyffuriau,

Peidiwch â’u gwneud nid ydynt yn ffrindiau.

Arogli, yfed neu ysmygu?

Ni ddylai eich ffrindiau ddylanwadu.

Gwnewch y dewis rydych chi ei eisiau:

Nid oes raid bob amser gwrando ar ffrindiau.

Cyflwyniad

Bydd Tarian yn eich helpu i ddysgu:

  • ffeithiau am gyffuriau,
  • peryglon cymryd cyffuriau, ac
  • y deddfau’n ymwneud â thybaco, alcohol a thoddyddion.

Cwestiwn ac Ateb

Cwestiwn: Pam fod toddyddion mor beryglus?
Ateb: Gall toddyddion eich lladd y tro cyntaf y byddwch yn rhoi cynnig arnynt.
Cwestiwn: Sut gall rhywun arall yn ysmygu wneud niwed i mi?
Ateb: Gall mwg sigaréts eich niweidio chi gan eich bod yn anadlu cemegau peryglus.
Cwestiwn: Pam fod alcohol yn beryglus?
Ateb: Oherwydd rydych yn fwy tebygol o gymryd risgiau a chael damwain.

Os oes angen help arnoch, ffôniwch ChildLine ar

0800 1111

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o ffônau symudol a llinellau tir.

Ni fydd y rhif yn ymddangos ar filiau ffôn.

Am gymorth ynglŷn â chyffuriau, ffôniwch Dan 24/7 ar

0808 808 2234

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o llinellau tir.

Mae cost galwad o ffôn symudol yn amrywio gan ddibynnu ar eich darparwr.

dan247.org.uk/Default_Wales.asp