Rydych chi yma: Disgyblion > 7-11 Oed > Eich Dewis Chi

Eich Dewis Chi

Ffaith Allweddol

Beth yw cyffur?

Cyffur yw rhywbeth sy’n newid y ffordd y mae’r meddwl neu’r corff yn gweithio.

Cyngor PC Williams

Gair o Gyngor

Cofiwch

  • Mae moddion yn gyffur ond nid yw pob cyffur yn foddion.
  • Gall cyffuriau fod yn gaethiwus.
  • Nid yw ffrindiau sy’n eich annog i gymryd cyffuriau yn ffrindiau mewn gwirionedd.
  • Os ydych am edrych ar ôl eich hun a chadw eich corff yn ddiogel ac iach, dywedwch NA!
  • Gall cymryd moddion rhywun arall fod yn beryglus ac mae yn erbyn y gyfraith.

Pethau i Wneud i Chi Feddwl!

Meddai PC Jones:

  • Cyffur cyfreithlon yw un a brynir yn unol â’r gyfraith neu a ragnodir i chi gan eich meddyg. Hyd yn oed gyda chyffuriau cyfreithlon mae yna reolau ynglŷn â phwy all eu prynu a sut gallant gael eu defnyddio.
  • Mae’n beryglus i gymryd rhagor o foddion nag a ragnodir gan feddyg.
  • Cyffur anghyfreithlon yw sylwedd nad oes gan berson ganiatâd i’w gael. Mae’n groes gyfraith.
  • Mae 80% o ddefnyddwyr y tro cyntaf yn cael eu perswadio i wneud hynny gan ffrindiau.
  • Pan fyddwch yn cymryd cyffuriau gallech wneud rywbeth y byddwch yn ei ddifaru.
  • Rydych yn gyfrifol am eich gweithredoedd yng ngolwg y gyfraith o ddeg oed.

Cyflwyniad

Bydd eich swyddog heddlu yn eich helpu i ddeall

  • y gwahaniaeth rhwng sylweddau cyfreithlon, anghyfreithlon, meddygol a sylweddau eraill, a
  • grym pwysau cyfoedion.
"Peidiwch â gwrando ar lais pob un, cofiwch wneud eich dewis eich hun!"

Cwestiwn ac Ateb

Cwestiwn: Sut ydw i’n gwybod os yw rhywbeth yn gyffur?
Ateb: Peidiwch â chymryd unrhyw risgiau. Os ydych yn ansicr ynglŷn â rhywbeth, dywedwch "na".
Cwestiwn: Pwy sy’n defnyddio cyffuriau?
Ateb: Gall pobl sydd yn sâl gymryd moddion i’w gwella. Gall oedolion gymryd alcohol neu sigaréts yn gyfreithlon. Yna mae rhai pobl yn cymryd cyffuriau yn anghyfreithlon.
Cwestiwn: Pam fod pobl yn defnyddio cyffuriau?
Ateb: Gall pobl ddechrau defnyddio cyffuriau oherwydd bod eu ffrindiau yn gofyn iddynt wneud hynny. Pwysau cyfoedion yw hyn. Cofiwch, gallwch ddweud na!
Cwestiwn: Beth yw peryglon defnyddio cyffuriau?
Ateb: Gallwch roi eich hun mewn risg o gael eich arestio, niwed difrifol, damwain neu gallwch hyd yn oed farw.

Os oes angen help arnoch, ffôniwch ChildLine ar

0800 1111

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o ffônau symudol a llinellau tir.

Ni fydd y rhif yn ymddangos ar filiau ffôn.

Am gymorth ynglŷn â chyffuriau, ffôniwch Dan 24/7 ar

0808 808 2234

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o llinellau tir.

Mae cost galwad o ffôn symudol yn amrywio gan ddibynnu ar eich darparwr.

dan247.org.uk/Default_Wales.asp

Os ydych angen riportio trosedd, galwch CrimeStoppers ar

0800 555 111

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o llinellau tir.

Mae cost galwad o ffôn symudol yn amrywio gan ddibynnu ar eich darparwr.