Byddwch yn Seiber Ddiogel

Ffaith Allweddol

Beth allaf wneud os bydd rhywun yn gwneud i mi deimlo'n anniogel ar y Rhyngrwyd?

Dywedwch wrth oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddo, neu ei riportio ar www.thinkuknow.co.uk.

Bod yn SMART ar y Rhyngrwyd!

Bod yn SMART ar y Rhyngrwyd!

Arhoswch yn ddiogel: Cofiwch y rheolau SMART!

S am Saff

Peidiwch â rhannu neu arddangos eich gwybodaeth bersonol.

M am Meddwl Eto

Gall cyfarfod â rhywun yr ydych dim ond yn ei adnabod ar-lein fod yn beryglus. Peidiwch byth â mynd eich hun. Ewch â rhiant neu ofalwr gyda chi bob amser.

A am Aros Funud

Gall derbyn negeseuon e-bost, negeseuon gwib, neu agor ffeiliau, lluniau neu negeseuon tecst gan bobl nad ydych yn eu hadnabod nac yn ymddiried ynddynt arwain at broblemau - gallant gynnwys firysau neu negeseuon cas. Dylech eu dileu ar unwaith.

R am Rhaid Cofio

Gall rhywun ar-lein fod yn dweud celwydd ynglŷn â phwy ydynt, gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn i riant / gofalwr wirio eich gosodiad preifatrwydd i gynnwys dim ond ffrindiau go iawn.

T am Teimlo'n Annifyr

Dywedwch wrth riant, gofalwr neu oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddo os oes rhywun neu rywbeth yn eich gwneud i deimlo’n anghyfforddus neu’n bryderus, neu os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn cael eu bwlio.

Gair o Gyngor

Cofiwch

  • I gadw eich hun yn ddiogel rhag cael eich hacio defnyddiwch gyfrinair ‘cadarn’, un sy'n anodd ei ddyfalu. Cynhwyswch brif lythrennau, rhifau a symbolau. Defnyddiwch wahanol gyfrineiriau ar gyfer gwahanol broffiliau a chyfrifon. (Gallech ddefnyddio'r un gair gyda gwahanol rifau ar y diwedd.) Peidiwch ag ysgrifennu eich cyfrinair neu ei gadw yn eich ffôn symudol.
  • Os defnyddiwch gyfrifiadur rhywun arall gwnewch yn siŵr eich bod wedi logio allan o'ch holl broffiliau cyn i chi adael.
  • Efallai y bydd rhai pobl yn sefydlu gwefannau ffug er mwyn ceisio cael pobl eraill i roi eu manylion personol arni. Gelwir hyn yn gwe-rwydo. Peidiwch â rhoi eich manylion oni bai bod symbol clo clap arno.
  • Bydd www.GetSafeOnline.org yn rhoi rhagor o gynghorion ar sut i aros yn ddiogel.

Pethau i Wneud i Chi Feddwl!

Meddai PC Jones:

  • Mae'n rhaid i chi fod yn 13 oed i gael cyfrif Facebook.
  • Os ydych yn lawrlwytho cerddoriaeth o'r Rhyngrwyd heb dalu efallai eich bod yn torri'r gyfraith.
  • Gallwch ddefnyddio'r Rhyngrwyd i helpu gyda’ch gwaith cartref.
  • Nid yw rhywun yr ydych dim ond yn ei adnabod ar-lein yn ffrind go iawn oherwydd nid ydych yn ei adnabod yn y cnawd.
  • Hacio yw pan fydd rhywun arall yn logio i'ch proffil ar un o'ch cyfrifon chi ar y Rhyngrwyd.

Os ydych yn teimlo’n anniogel neu angen help pan fyddwch yn defnyddio’r rhyngrwyd, riportiwch ef ar

ceop.police.uk/safety-centre

Cyflwyniad

Bydd eich swyddog ysgol yn eich helpu i ddysgu sut i ddefnyddio'r rhyngrwyd yn ddiogel.

Cyngor PC Blake

Cwestiwn ac Ateb

Cwestiwn: Sut allaf aros yn ddiogel wrth ddefnyddio gwefannau chwarae?
Ateb: Peidiwch â rhoi eich manylion personol i unrhyw un. Os oes unrhyw un yn gwneud i chi deimlo'n anniogel dywedwch wrth oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddo, neu riportiwch hwy drwy glicio'r botwm riportio cam-drin CEOP.
Cwestiwn: Pa wybodaeth sy'n ddiogel i'w rhoi ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol?
Ateb:
  • Yn gyntaf gwnewch yn siŵr bod y gosodiadau preifatrwydd dim ond yn caniatáu i'ch ffrindiau personol gael mynediad.
  • Osgowch roi unrhyw fanylion personol megis dyddiad geni, cyfeiriad, ysgol ac enwau'r teulu.
  • Byddwch yn ofalus wrth roi lluniau gan wneud yn siŵr eu bod yn briodol.
  • Byddwch yn ofalus pa sylwadau a wnewch am eraill. Gall sylwadau cas fynd â chi i drafferth â'r gyfraith.
Cwestiwn: Rhoddodd fy ffrind sylwadau cas ar dudalen Facebook merch arall. Beth allai ddigwydd nesaf?
Ateb: Gelwir hyn yn fwlio seiber ac mae'n anghywir. Gall y ferch sy'n cael ei bwlio ddewis riportio'r ymddygiad yma ar-lein. Ni ddylech anwybyddu hyn, dylech siarad ag oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddo gan y gallai eich ffrind fynd i gryn drafferth os bydd yr ymddygiad hwn yn parhau. Gellir cadw negeseuon fel tystiolaeth ar gyfer yr heddlu.
Cwestiwn: Sut gallaf wybod os yw rhywun ar-lein yn berson diogel i'w gyfarfod?
Ateb: Nid ydych yn gwybod a yw person yn ddiogel os nad ydych yn ei adnabod yn y cnawd. Gofynnwch i oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddo i fynd gyda chi os ydych yn cynllunio i gwrdd â rhywun. Peidiwch BYTH a mynd ar eich pen eich hun.
Cwestiwn: Sut gallaf osgoi cael firysau ar-lein?
Ateb:
  • Cofiwch dim ond agor negeseuon e-bost, cerddoriaeth, lluniau a ffeiliau fideo gan bobl yr ydych yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt.
  • Peidiwch â chlicio ar naidlenni.
  • Peidiwch ag ysgrifennu eich cyfrinair heb symbol diogel.
Cwestiwn: Beth allaf wneud os caiff fy nghyfrif Rhyngrwyd ei hacio?
Ateb: Newidiwch eich cyfrinair ar unwaith, neu dilëwch eich cyfrif a dechrau un newydd. Gallwch hefyd anfon e-bost at y wefan a gofyn iddi gau eich cyfrif. Dywedwch wrth eich teulu a’ch ffrindiau beth sydd wedi digwydd fel eu bod y gwybod nad chi oedd yn anfon negeseuon.

Os ydych yn teimlo’n anniogel neu angen help pan fyddwch yn defnyddio’r rhyngrwyd, riportiwch ef ar

ceop.police.uk/safety-centre

Am gymorth ynglŷn â chadw’n ddiogel ar-lein, edrychwch ar

thinkuknow.co.uk

Mae MEIC yn wasanaeth llinell gymorth newydd i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru.

0808 80 23456

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o llinellau tir.

Mae cost galwad o ffôn symudol yn amrywio gan ddibynnu ar eich darparwr.

meiccymru.org/cy

Os oes angen help arnoch, ffôniwch ChildLine ar

0800 1111

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o ffônau symudol a llinellau tir.

Ni fydd y rhif yn ymddangos ar filiau ffôn.