Ymddygiad gwrthgymdeithasol yw unrhyw ymddygiad y tybiwch chi allai gynhyrfu rhywun ac sy’n anghywir neu yn erbyn y gyfraith.
Cofiwch
Mae fy ffrind yn dweud bod gan ei chyfnither Gorchymyn Sifil. Beth yw hynny?
Dim ond rhai pobl ifanc sy'n cael Orchymyn Sifil. Rhown rybudd ar lafar i bobl ifanc sy'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol.
Os bydd yr ymddygiad yn parhau, anfonir llythyr rhybudd at rieni.
Yna, os na fydd yr ymddygiad yn gwella bydd yr heddlu’n cyfarfod â chi â’ch rhieni ac yn llunio Cytundeb Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ABC).
Os na cheir welliant wedyn caiff Orchymyn Sifil ei roi.
Os torrwch reolau Gorchymyn Sifil gallwch fynd i'r carchar.
Bydd eich swyddog heddlu ysgol yn eich helpu i ddysgu:
Gall unrhyw un dros 10 oed gael Orchymyn Sifil gan y Llysoedd. Mae'n beth difrifol iawn a bydd yn para am o leiaf dwy flynedd.
Os oes gennych Gorchymyn Sifil mae rheolau ynglŷn â beth allwch chi wneud a beth na allwch wneud.
Os oes angen help arnoch, ffôniwch ChildLine ar
0800 1111
Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o ffônau symudol a llinellau tir.
Ni fydd y rhif yn ymddangos ar filiau ffôn.
Os ydych angen riportio trosedd, galwch CrimeStoppers ar
0800 555 111
Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o llinellau tir.
Mae cost galwad o ffôn symudol yn amrywio gan ddibynnu ar eich darparwr.