Felly, Beth yw’r Broblem?

Ffaith Allweddol

Beth yw cyffur?

Cyffur yw rhywbeth sy'n newid y ffordd y mae eich meddwl a'ch corff yn gweithio.

Cyngor PC Jones

Gair o Gyngor

Cofiwch

  • Nid oes swm diogel o alcohol ar gyfer plant oherwydd mae eich corff yn dal i dyfu. Gall alcohol wneud niwed i'r ymennydd a'r corff sy'n datblygu.
  • Mae toddyddion yn gemegau peryglus sy'n ddrwg i'ch iechyd.
  • Mae yfed alcohol hefyd yn arafu eich ymateb ac yn eich gwneud yn fwy tebyg o gael damwain neu ymddwyn mewn ffordd anniogel.
  • Gellir dod o hyd i doddyddion yn y cartref a dylid eu storio’n ddiogel, allan o gyrraedd plant ifanc.
  • Byddwch yn ymwybodol y gall cryfder diodydd alcoholaidd amrywio. Er enghraifft, mae Shandi gyda 1%, Seidr 4%, Alcopops megis Reef 5%, Gwin 12%, a mae Fodca yn aml yn gyda 40%.

Pethau i Wneud i Chi Feddwl!

Meddai PC Jones:

  • Mae'n anghyfreithlon i roi alcohol i blentyn o dan bump oed.
  • Gall plentyn 14 oed fynd i mewn i dafarn yng nghwmni oedolyn ond ni all fynd i'r bar lle caiff diodydd eu gweini.
  • Mae'n anghyfreithlon i unrhyw un o dan 18 oed brynu alcohol.
  • Ni all siopwyr werthu alcohol na thoddyddion i rywun dan 18 oed.

Cyflwyniad

Bydd eich swyddog heddlu yn eich helpu i ddysgu am risgiau a chanlyniadau cam-ddefnyddio alcohol a thoddyddion.

Cwestiwn ac Ateb

Cwestiwn: Beth allai canlyniadau arogli toddyddion fod?
Ateb: Gall toddyddion eich lladd y tro cyntaf y byddwch yn rhoi cynnig arnynt gan eu bod yn atal y cyhyrau rhag gweithio ac ni all y defnyddiwr anadlu.
Cwestiwn: A yw pob diod alcoholaidd yr un cryfder?
Ateb: Na, mesurir cryfder alcohol mewn unedau ac mae'n amrywio rhwng diodydd.
Cwestiwn: A yw alcohol yn beryglus?
Ateb: Ydy, mae alcohol yn gyffur. Mae gormod o alcohol yn achosi i rai pobl ymddwyn yn wael, sy'n cael ei adnabod fel ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gall alcohol hefyd achosi i rai pobl fynd yn dreisgar.
Cwestiwn: A all ffrindiau hŷn na 18 oed brynu alcohol i mi?
Ateb: Na, mae'n anghyfreithlon i brynu alcohol ar gyfer rhywun o dan oed.

Os oes angen help arnoch, ffôniwch ChildLine ar

0800 1111

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o ffônau symudol a llinellau tir.

Ni fydd y rhif yn ymddangos ar filiau ffôn.

Os ydych angen riportio trosedd, galwch CrimeStoppers ar

0800 555 111

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o llinellau tir.

Mae cost galwad o ffôn symudol yn amrywio gan ddibynnu ar eich darparwr.