Cwestiwn: A oes gennyf unrhyw hawliau gan mai dim ond plentyn ydw i?
Ateb:
Oes, mae gennych. Mae gwledydd sy'n perthyn i'r Cenhedloedd Unedig i gyd wedi cytuno y dylai pawb ofalu am blant a'u hawliau. Mae gennych hawliau i fod yn ddiogel, i gael addysg, cartref, bod yn iach a llawer mwy yn cynnwys yr hawl i gael eich clywed a'ch gwrando.
Cwestiwn: Mae fy nghyfnither yn dweud fy mod yn fwli gan fy mod bob amser yn ei galw hi’n ‘sbecs’. Dim ond cael hwyl ydw i? Mae hi'n perthyn i mi!
Ateb:
Na, nid dim hwyl yw galw enwau ar rywun a'u brifo. Mae eich cyfnither wedi ei brifo gan eich ymddygiad.
Cofiwch y gallwch stopio, a thrin eich cyfnither â pharch yn y dyfodol.
Cwestiwn: Beth yw cam-drin plant?
Ateb: Cam-drin plant yw pan fydd oedolyn yn trin plentyn yn wael iawn. Gall yr oedolyn gicio, taro, rhegi at blentyn neu ei bwnio neu ei gyffwrdd mewn modd sy'n gwneud iddo deimlo'n ofnus ac anghyfforddus iawn. Mae'r cam-drin fel hyn yn anghywir ac nid yw BYTH yn fai'r plentyn.
Cwestiwn: A yw gweithwyr cymdeithasol yn mynd â phlant i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd?
Ateb: Bydd gweithwyr cymdeithasol yn gwneud popeth a allant i helpu teulu i ddatrys y problemau. Os yw'n anniogel i'r plant aros gyda'u teulu, bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn dod o hyd i deulu arall i'r plant aros gydag ef.