Wedi’i drefnu gan Insafe yn ystod mis Chwefror pob blwyddyn, nod Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yw hyrwyddo defnydd diogelach o dechnoleg ar-lein a ffonau symudol, yn enwedig ymysg plant a phobl ifanc ar draws y byd.
Eleni, y 12fed flwyddyn, bydd Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn cael ei ddathlu ar 10 Chwefror 2015 o dan y pennawd “Cydweithio i greu gwell Rhyngrwyd.”
www.saferinternet.org.uk
Mae ein tudalennau disgyblion yn galluogi disgyblion i gael mwy o wybodaeth ar y gwersi a ddarperir gan eu Swyddog Cyswllt Ysgolion lleol. Mae’r tudalennau yn galluogi disgyblion i ddysgu mwy, chwarae gemau ac ymchwilio i le y gallant gael mwy o wybodaeth ar gadw’n ddiogel ar-lein, defnyddio ffonau symudol a seiberfwlio.
yn cynnwys y gêm Cadw’n SMART
Cofiwch fod Click CEOP yno bob amser os byddwch yn teimlo mewn perygl ar-lein!
ThinkUKnow – mae ThinkUKnow yn adnodd rhagorol sy’n darparu cymorth a chyngor i ysgolion, athrawon a gweithwyr ieuenctid. Mae hefyd yn cynnwys adnoddau seiliedig ar oedran er mwyn helpu plant a phobl ifanc i gadw’n ddiogel ar-lein.
MEIC – MEIC yw’r llinell gymorth ar gyfer pobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Mae MEIC yn credu bod gan bob plentyn ac unigolyn ifanc yr hawl i gael mynegi eu safbwyntiau, dymuniadau a theimladau.
WiseKids – mae WISE KIDS yn hyrwyddo arloesedd, defnydd cadarnhaol a diogel o’r rhyngrwyd drwy’r ddarpariaeth o raglenni hyfforddiant arloesol, datblygiad ymgynghori ac adnoddau ym meysydd Llythrennedd Digidol, Dinasyddiaeth Ddigidol, Cyfranogiad Digidol a Diogelwch Ar-lein.
Mae diogelwch ar y rhyngrwyd yn ffurfio rhan o edefyn diogelwch Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan. Mae gwersi ar ddiogelwch y rhyngrwyd yn dechrau o CA2 lle mae ein ffrind Tarian yn helpu plant i ddeall sut i gadw’n ddiogel gyda’r wers ‘Cadw’n SMART’ ac yn parhau drwy’r ysgol gynradd ac i’r ysgol uwchradd.
Yn dilyn ymgyrch ‘Share Aware’ yr NSPCC, gwelwyd:
Mae’r NSPCC wedi lansio ymgyrch newydd o’r enw ‘Be Share Aware’ sy’n cynnwys fideo ‘Have you seen Alex’s Willy?’ sydd â’r nod o geisio helpu rhieni i ddysgu eu plant sut i gadw’n ddiogel ar-lein.