Blog Swyddogion SchoolBeat

Blog Swyddogion SchoolBeat: Diogelwch Personol

Mae gan PC Diana cyngor am ddiogelwch personol pan fyddwch chi allan o gwmpas y lle.


Blog Swyddogion: Gaming

Gall plant a phobl ifanc gael llawer o hwyl ar-lein ac mae chwarae gemau’n rhywbeth y mae llawer yn ei fwynhau. Ond mae ‘na bryder cynyddol bod gamblo'n gwthio’i ffordd i mewn i gemau ar-lein. Mae plant a phobl ifanc yn dal i ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o arian a gallan nhw fod yn agored i gael eu tynnu i mewn i wario 'o fewn gêm'.

Yn ein Vlog, mae gan PC Hughes ychydig o gyngor defnyddiol i rieni ar sut i gadw’u plant yn fwy diogel ar gemau ar-lein.


Blog Swyddogion: Mynd i'r Afael â Throseddau Cyllyll

Ein cyngor i bobl ifainc:
I rieni ac athrawon:

Mae cyngor gan PC Ian Ayers ar gyfer rhieni ac athrawon am bobl ifanc yn fyw heb gyllyll. Ein negeseuon allweddol:

  • Nid yw cario cyllell yn gwneud i berson yn fwy diogel, mae'n eu rhoi mewn mwy o berygl
  • Mae ein cymunedau yn fwy diogel pan rydyn yn dewis i beidio â chario arfau
  • Gwasanaeth dienw yw Fearless.org, lle gallwch chi riportio rywun sy'n cario cyllell.

Blog Swyddogion: Ymddygiad Gwrth-Gymdeithasol

Gellir gael help arlein gan siarad â Childline neu Meic Cymru a fydd yn cynnig arweiniad a chefnogaeth.

Efallai eich bod hefyd wedi clywed am Fearless. Mae cysylltu gyda Fearless.org yn hollol ddienw ac mae eu gwasanaeth arlein yn golygu bod person yn gallu rhoi gwybod am unrhyw drosedd neu unrhyw bryder sydd ganddynt. Fyddan nhw ddim yn cymryd unrhyw fanylion personol a fydd dim modd adnabod y person sy’n riportio.

Cofiwch hefyd bod yr heddlu ar gael i helpu hefyd pan fydd pethau’n mynd o le. Gellir cysylltu â’r Heddlu ar 101, neu 999 mewn argyfwng.


Blog Swyddogion: Troseddau Casineb

Mae’n Wythnos Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Trosedd Casineb, a mae Blog Swyddogion SchoolBeat yn siarad am y pwyntiau pwysicaf.

Mae Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgolion yma i gynorthwyo y disgyblion hynny sy’n ddioddefwyr troseddau casineb, yn ogystal â helpu ysgolion wrth iddynt ymdrin â gwahaniaethu a rhagfarn.

Mae ein cymunedau yn well ac yn fwy diogel pan rydym yn trin ein gilydd â pharch.

Gellir gael help arlein gan siarad â Childline neu Meic Cymru a fydd yn cynnig arweiniad a chefnogaeth.

Efallai eich bod hefyd wedi clywed am Fearless. Mae cysylltu gyda Fearless.org yn hollol ddienw ac mae eu gwasanaeth arlein yn golygu bod person yn gallu rhoi gwybod am unrhyw drosedd neu unrhyw bryder sydd ganddynt. Fyddan nhw ddim yn cymryd unrhyw fanylion personol a fydd dim modd adnabod y person sy’n riportio.

Cofiwch hefyd bod yr heddlu ar gael i helpu hefyd pan fydd pethau’n mynd o le. Gellir cysylltu â’r Heddlu ar 101, neu 999 mewn argyfwng.


Blog Swyddogion 8: Llinellau Sirol

Yn y ffilm yma bydd PC Evans yn siarad am Llinellau Sirol (“County Lines”).

Mae Llinellau Sirol yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio symud cyffuriau mewn modd trefnedig ac anghyfreithlon o ddinasoedd mawr i mewn i drefi llai ac ardaloedd gwledig, yn aml drwy ddefnyddio plant ac oedolion sy’n agored i niwed.

Mae grwpiau troseddol yn mynd ati i recriwtio pobl ifanc i gario cyffuriau. Mae’n gyffredin i aelodau ifanc grwpiau troseddol dargedu pobl ifanc eraill, yn enwedig y rhai hynny sy’n cael eu denu gan y ddelwedd a’r statws mae’n ymddangos fod y grŵp yn ei gynnig.

Yn y ffilm yma mi fydd PC Evans yn esbonio os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn poeni ynghylch unrhyw beth mewn perthynas â Llinellau Sirol mae pethau y gallwch chi eu gwneud.

I berson ifanc mae dod o hyd i oedolyn yr ydynt yn ymddiried ynddynt, fel rhiant neu ofalwr yn le da i ddechrau.

Yn yr ysgol, gallant bob amser siarad gydag athro neu Swyddog Heddlu Cymunedol Ysgolion.

Gellir hefyd gael help arlein. Gellir siarad â Childline neu Meic Cymru a fydd yn cynnig arweiniad a chefnogaeth.

Efallai eich bod hefyd wedi clywed am Fearless. Mae cysylltu gyda Fearless.org yn hollol ddienw ac mae eu gwasanaeth arlein yn golygu bod person yn gallu rhoi gwybod am unrhyw drosedd neu unrhyw bryder sydd ganddynt. Fyddan nhw ddim yn cymryd unrhyw fanylion personol a fydd dim modd adnabod y person sy’n riportio.

Cofiwch hefyd bod yr heddlu ar gael i helpu hefyd pan fydd pethau’n mynd o le. Gellir cysylltu â’r Heddlu ar 101, neu 999 mewn argyfwng.

Gyda’n gilydd gallwn helpu gadw’n plant yn ddiogel.


Blog Swyddogion 7: Atal Eithafiaeth

Ar adeg pan mae bygythiadau a gweithgareddau terfysgaeth yn y newyddion, mae'n naturiol bod rhieni'n pryderu ynghylch sut y gallai eu plant gael eu dylanwadu ar-lein. Mae'n wir fod eithafwyr yn defnyddio'r rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo ideoleg ac i recriwtio neu radicaleiddio pobl, gan gynnwys pobl ifanc. Fodd bynnag, mae enghreifftiau o hyn yn brin yng Nghymru.

Mae ein swyddog Schoolbeat yn cynnig rhywfaint o gyngor yn y flog ac yn nodi rhai ffynonellau a all fod o gymorth os ydych chi'n pryderu am eich plentyn a radicaleiddio. Ceir rhywfaint o arweiniad i rieni a gofalwyr ar-lein gan Lywodraeth Cymru.

Diogelu plant rhag cam-drin ar-lein

Gallwch riportio cynnwys sy'n ymwneud â therfysgaeth i Uned Atgyfeirio Gwrthderfysgaeth Rhyngrwyd yr heddlu.

Os ydych yn pryderu y gallai eich plentyn neu aelod arall o'r teulu neu ffrind gael eu radicaleiddio, gallwch ofyn am gyngor gan yr heddlu drwy ffonio 101 ac, os oes angen, llenwi ffurflen atgyfeirio Prevent er mwyn iddynt allu derbyn cymorth diogelu lleol.


Blog Swyddogion 6: Cyfraith Clare

Mae PC Hughes eisiau rhannu neges pwysig am Gyfraith Clare, y cynllun Datgelu Trais Domestig. Plîs rhannwch i'n helpu i godi ymwybyddiaeth o gymorth sydd ar gael i rai sydd mewn perygl o, neu'n poeni am, gam-drin domestig.

Os ydych chi neu unrhyw un rydych chi’n eu hadnabod yn dioddef cam-drin domestig cysylltwch â llinell gymorth am ddim Byw Heb Ofn 0808 80 10 800.

Mewn argyfwng ffoniwch 999 ac os nad ydych yn gallu siarad deialwch 5 5.

Mae’r Heddlu’n yma i helpu.


Blog Swyddogion 5: Pwyllo Cyn Rhannu

Mae PC Williams eisiau rhannu neges pwysig. Mae’r haint Covid-19 wedi achosi llawer o aflonyddwch, gyda nifer o ysgolion ar gau a’r mwyafrif o blant yn cael eu haddysgu adref.

Mae technoleg wedi’n helpu, ond mae nifer o’r heriau yr oedd teuluoedd yn eu hwynebu cyn y cyfyngiadau symud dal yno – ac mae rhai newydd wedi’u cyflwyno.

Gyda chymaint o blant yn aros gartref yn ystod y cyfnod hwn, mae’n bwysig ein bod ni’n helpu’n plant i feddwl yn ofalus am yr hyn maent yn gwneud ar-lein.

Gwrandewch ar gyngor PC Williams ac os ydych chi yn poeni am gam-drin rhywiol ar-lein gallwch gysylltu â’r tîm Camfanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein drwy chwilio am CEOP.

Ac yn olaf, cofiwch, rydyn ni fel heddlu yma i helpu os bydd unrhyw beth yn mynd o’i le. Byddwn ni’n canolbwyntio ar ddiogelu’r plentyn a helpu datrys y mater. Gallwch gysylltu â’r Heddlu ar 101 neu 999 mewn argyfwng.

Gyda’n gilydd gallwn gadw ein plant yn ddiogel ar-lein.


Blog Swyddogion 4: Cam-drin Domestig

Mae PC Pritchard eisiau rhannu neges pwysig. Bydd Covid-19 (y Coronafeirws) yn cael effaith sylweddol ar fywydau menywod, plant a dynion sy’n dioddef cam-drin domestig. Rhagwelir y bydd y cynnydd o ran straen oherwydd swyddi, arian, cau ysgolion, gweithio o gartref ac addysgu yn cynyddu’r achosion o ddigwyddiadau cam-drin domestig yn ystod y cyfnodau hyn o ynysu.

Os ydych chi neu unrhyw un rydych chi’n eu hadnabod yn dioddef cam-drin domestig cysylltwch â llinell gymorth am ddim Byw Heb Ofn 0808 80 10 800.

Gall blant alw ChildLine 0800 1111.

Mewn argyfwng ffoniwch 999 ac os nad ydych yn gallu siarad deialwch 55.

Mae’r Heddlu’n dal yma i helpu!

Blog Swyddogion 3: Cadw cymunedau’n ddiogel yn ystod y cyfnod o gloi

Hoffai SchoolBeat ddiolch i chi am eich cydweithrediad yn rheoli lledaeniad Covid-19 yma yng Nghymru drwy ymbellhau’n gymdeithasol. Hoffai PC Pritchard rannu neges bwysig, wrth i ni ddechrau ar ein cyfnod estynedig o gloi. Os gwelwch yn dda edrychwch a gwrandewch ar blog ein Swyddog Heddlu Cymunedol Ysgolion.

Blog Swyddogion 2: Meddwl am Rannu Ar-lein

Mae PC Pritchard yn trafod am feddwl am rannu ar-lein.

Blog 1: Diogelwch Ar-lein • SchoolBeat FM

Er mwyn dangos ein cefnogaeth i’r rhai sydd adref ac i’r athrawon hynny sy’n gwasanaethu’r gweithwyr hanfodol, rydym yn falch cael lawnsio ein podleidiad cyntaf. Drwy law SchoolBeatFM, fe glywch ein Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgolion yn sgwrsio am faterion diogelwch.

Gwrandewch ar ein podlediad cyntaf yng nghwmni PC Pritchard o Heddlu Gogledd Cymru, yn ddwy ran:

  1. Diogelwch Ar-lein yn y Cartref
  2. Meddwl am Rannu Ar-lein