Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru
21.05.2020

Blog Swyddogion 5: Pwyllo Cyn Rhannu

Cymraeg

English

Mae PC Williams eisiau rhannu neges pwysig. Mae’r haint Covid-19 wedi achosi llawer o aflonyddwch, gyda nifer o ysgolion ar gau a’r mwyafrif o blant yn cael eu haddysgu adref.

Mae technoleg wedi’n helpu, ond mae nifer o’r heriau yr oedd teuluoedd yn eu hwynebu cyn y cyfyngiadau symud dal yno – ac mae rhai newydd wedi’u cyflwyno.

Gyda chymaint o blant yn aros gartref yn ystod y cyfnod hwn, mae’n bwysig ein bod ni’n helpu’n plant i feddwl yn ofalus am yr hyn maent yn gwneud arlein.

Gwrandewch ar gyngor PC Williams ac os ydych chi yn poeni am gam-drin rhywiol ar-lein gallwch gysylltu â’r tîm Camfanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein drwy chwilio am CEOP.

Ac yn olaf, cofiwch, rydyn ni fel heddlu yma i helpu os bydd unrhyw beth yn mynd o’i le. Byddwn ni’n canolbwyntio ar ddiogelu’r plentyn a helpu datrys y mater. Gallwch gysylltu â’r Heddlu ar 101, neu 999 mewn argyfwng.

Gyda’n gilydd gallwn gadw ein plant yn ddiogel ar-lein.

Blog Swyddogion 5: Pwyllo Cyn Rhannu (YouTube)
visit