Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru
04.08.2020

Blog Swyddogion 7: Atal Eithafiaeth

Ar adeg pan mae bygythiadau a gweithgareddau terfysgaeth yn y newyddion, mae'n naturiol bod rhieni'n pryderu ynghylch sut y gallai eu plant gael eu dylanwadu ar-lein. Mae'n wir fod eithafwyr yn defnyddio'r rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo ideoleg ac i recriwtio neu radicaleiddio pobl, gan gynnwys pobl ifanc. Fodd bynnag, mae enghreifftiau o hyn yn brin yng Nghymru.

Mae ein swyddog Schoolbeat yn cynnig rhywfaint o gyngor yn y flog ac yn nodi rhai ffynonellau a all fod o gymorth os ydych chi'n pryderu am eich plentyn a radicaleiddio. Ceir rhywfaint o arweiniad i rieni a gofalwyr ar-lein gan Lywodraeth Cymru.

Diogelu plant rhag cam-drin ar-lein

Gallwch riportio cynnwys sy'n ymwneud â therfysgaeth i Uned Atgyfeirio Gwrthderfysgaeth Rhyngrwyd yr heddlu.

Os ydych yn pryderu y gallai eich plentyn neu aelod arall o'r teulu neu ffrind gael eu radicaleiddio, gallwch ofyn am gyngor gan yr heddlu drwy ffonio 101 ac, os oes angen, llenwi ffurflen atgyfeirio Prevent er mwyn iddynt allu derbyn cymorth diogelu lleol.

Blog Swyddogion SchoolBeat 7 - Atal Eithafiaeth (YouTube)
visit