Mae’r elusen Crimestoppers yn lansio ei wasanaeth ieuenctid cenedlaethol Fearless ar draws Cymru eleni mewn ymgais i addysgu, grymuso ac annog pobl ifanc i godi eu lleisiau yn erbyn troseddau yn eu cymunedau.
Mae Fearless yn darparu offer ac adnoddau addysgol i blant 11 i 16 oed yn eu hannog i wneud penderfyniadau positif, gwybodus ynghylch trosedd a throseddoldeb. Mae ei wefan – Fearless.org – wedi ei diweddaru i alluogi pobl ifanc i basio gwybodaeth am droseddau ymlaen yn y Gymraeg, yn gwbl ddienw a diogel.
Meddai Ella Rabaiotti, Rheolwr Rhanbarthol Cymru yn Crimestoppers:
“Gall pobl ifanc fod yn ddioddefwyr, tystion neu gyfranogwyr mewn troseddau, ond yn aml nid ydynt yn cydnabod y materion neu nid ydynt yn teimlo’n hyderus i ofyn am help.
“Rydyn ni’n darparu gwybodaeth am drosedd ac yn eu hannog i’w adrodd, naill ai trwy’r Heddlu, oedolyn a ymddiriedir neu trwy ein gwefan yn ddienw os byddant yn teimlo’n ofnus neu os nad oes ganddynt unrhyw un i ymddiried ynddynt.”
Mae Fearless yn cael ei gyflwyno trwy amrywiol brosiectau cymunedol ledled Cymru, yn cynnwys gweithio gyda’r Heddlu a grwpiau ieuenctid. Bydd ffilm fer yn cael ei rhyddhau yn hwyrach eleni i gynyddu ymwybyddiaeth ymysg rhai yn eu harddegau o droseddau ac i atgyfnerthu pwysigrwydd adrodd am drosedd.
Meddai Dafydd Llywelyn Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys:
“Mae ymyrraeth ac ataliaeth gynnar yn allweddol i addysgu pobl ifanc ynghylch troseddau. Dwi eisiau i fwy o bobl ifanc deimlo y gallant adrodd am droseddau ac mae Fearless yn darparu llwybr allweddol i gyflawni hynny. Dwi’n falch iawn y gall pobl ifanc nawr adrodd am droseddau trwy Fearless ar-lein, yn Gymraeg ac yn Saesneg.”
Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch y cynllun ar y wefan, sydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ddim i weithwyr proffesiynol, gan gynnwys ar bynciau megis Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant, Troseddau Cyllyll a Throseddau Stryd.