Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru
23.05.2023

‘Paid anwybyddu chwyrnu’

Mae’r Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol, neu DAN 24/7 dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac mae’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Llinell gymorth ffôn am ddim a dwyieithog ydy DAN 24/7 sy’n darparu un pwynt cyswllt i unrhyw un yng Nghymru sydd eisiau mwy o wybodaeth a/neu help ynglŷn â chyffuriau a/neu alcohol.

Mae’r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Mae’r  llinell gymorth yn helpu unigolion, eu teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr cefnogi yn y maes cyffuriau ac alcohol i gael gwasanaethau lleol a rhanbarthol addas.

Yn dilyn nifer o farwolaethau gwenwyno cyffuriau lle mae tystion wedi adrodd eu bod yn credu bod ffrindiau yn cysgu yn unig, gan fod modd eu clywed yn chwyrnu, mae DAN 24/7 wedi cynhyrchu animeiddiad byr o’r enw ‘Peidiwch anwybyddu chwyrnu’. Mae'n ffilm lleihau niwed fer sy'n ymwneud ag iselder anadlol ar ôl defnyddio Cyffuriau Iselydd y System Nerfol Ganolog.

Dyma'r dolen i'r ffilm yn y Gymraeg:

Don't ignore a snore - Peidiwch anwybyddu chwyrnu - YouTube