Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru
21.04.2023

Wythnos Ymwybyddiaeth Stelcian Cenedlaethol

Y thema eleni ydi ‘Sefyll yn Erbyn Stelcian: Cefnogi Pobl Ifanc’.

Mae’r linell gymorth National Stalking Helpline yn adrodd fod nifer cynyddol o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yn cysylltu gyda nhw i ofyn am gymorth ar sut i ddelio gydag ymddygiad annymunol.  

Stelcian

Diffiniad stelcian yw patrwm o ymddygiadau digroeso, obsesiynol, ymwthiol a rheolaethol sy’n cael eu hailadrodd yn barhaus ac yn achosi i’r dioddefwr deimlo ofn, braw neu drallod.

Gall stelcian gynnwys unrhyw fath o ymddygiad, er enghraifft anfon blodau neu anrhegion yn rheolaidd, cyfathrebu digroeso neu faleisus, difrodi eiddo neu ymosodiad rhywiol. Os yw’r ymddygiad yn gyson ac yn amlwg yn ddiangen, ac yn achosi i ti deimlo’n ofnus neu’n bryderus – stelcian ydi hyn, ni ddylet ti orfod ei ddioddef.

Beth i wneud?

Mae stelcian yn drosedd.  Os wyt ti’n cael dy stelcian, yn meddwl dy fod yn cael dy stelcian, neu’n poeni am rywun yn ymddwyn yn obsesiynol neu reolaethol ffonia 101 i gysylltu â’r Heddlu. Mewn argyfwng, ffonia 999.

Cymorth ar gael:

       Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh National Stalking Helpline: 0808 802 0300- llinellau ar agor yn ystod y wythnos rhwng 09:30 and 16:00, (agor am 13:00 ar Ddydd Mercher).

       Mae gwasanaeth Paladin National Stalking Advocacy Service hefyd yn cynnig cefnogaeth, cyngor ac eiriolaeth i ddioddefwyr stelcian. Mae gan Paladin arbenigwr ar gyfer bobl ifanc (Independent Stalking Advocate) all sgwrsio gyda ti am hyn. Gellir cysylltu’n uniongyrchol gyda Paladin drwy ffonio 0203 866 4107, neu ebostio info[at]paladinservice.co[dot]uk .

       Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn yn wasanaeth 24/7 am ddim i ddioddefwyr a goroeswyr trais yn erbyn merched, trais yn y cartref a thrais rhywiol, yn ogystal â’r rhai sy’n agos atyn nhw yn cynnwys teulu, ffrinidau a chdweithwyr. Gellir cysylltu gyda Byw Heb Ofn drwy’r dulliau isod:

Ffonio: 0808 80 10 800

Tecstio: 0786 007 7333

Ebostio: gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru

       Mae stelcian bob amser yn achosi trallod, ac opsiwn arall sydd ar gael yng Nghymru yw 111- opsiwn 2, ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl GIG.

Stelcian Seibr

Mae Stelcian Seibr yn estyniad o stelcian arferol, gall ddigwydd drwy gyfrwng ebyst a negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol.

Ddim yn siwr os wyt ti’n ddiodefwr?

Ystyria os yw’r ymddygiad yn obsesiynol, ymwthiol, rheolaethol, cyson, parhaus?

Os ydi’r hyn sy’n digwydd yn dy fywyd yn gwneud i ti deimlo’n ofnus neu anghyfforddus, efallai ei bod hi’n amser i ti siarad gyda rhywun a gofyn am gymorth. Os wyt ti’n profi stelcian, paid â dioddef yn dawel.

Adnoddau Pellach

Alice Ruggles Trust – Stalking video – Saesneg

Alice Ruggles Trust – Stalking video – Cymraeg