3 Hydref 2014
Ers 2007 mae nifer y bobl ifanc a droseddodd am y tro cyntaf wedi gostwng yn ddramatig. Dengys ffigyrau diweddaraf y Weinyddiaeth Gyfiawnder mai 1,718 o bobl ifanc droseddodd am y tro cyntaf ar draws ardaloedd y pedwar heddlu yng Nghymru yn 2012, sef gostyngiad o 70% ers 2007 pan oedd y ffigwr yn 5,694.
Mae Cymru yn unigryw o blith gwledydd y DU gan mai dyma’r unig un sydd â rhaglen atal trosedd genedlaethol ar waith, sef Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan (RhGCYCG) a gyflwynir ar sail partneriaeth gan Lywodraeth Cymru, y Pedwar Heddlu yng Nghymru a phob ysgol yng Nghymru ar gyfer plant rhwng 6 ac 16 oed.
Ers 2004, mae Swyddogion Heddlu Cymuned Ysgolion (SHCY) ar draws Cymru wedi bod yn meithrin cysylltiadau cadarnhaol gyda phlant a phobl ifanc drwy gyflwyno gwersi atal trosedd a diogelwch pwysig a chynnal lles disgyblion a’r ysgolion ar yr un pryd.
Amcanion craidd y rhaglen yw:
Gan siarad ynglŷn â pha mor falch y mae hi â’r gostyngiad yn y ffigyrau troseddu am y tro cyntaf ymhlith pobl ifanc, meddai Cydlynydd Cenedlaethol Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan, Mrs Linda Roberts: “Rydw i’n teimlo bod y ffigyrau calonogol hyn yn cefnogi ymchwil flaenorol a ddangosodd y gall addysg ataliol neu ymyrraeth gynnar helpu i hyrwyddo agweddau positif a dargyfeirio pobl ifanc rhag cael eu tynnu i mewn i’r System Cyfiawnder Troseddol. Mae addysg ataliol yn gwneud gwahaniaeth. Mae’n fuddsoddiad gwerth ei wneud er mwyn cynorthwyo pobl ifanc Cymru a diogelu eu lles.”
Mae Lorraine Bottomley, Prif Gwnstabl Cynorthwyol ac Arweinydd Cenedlaethol yr Heddlu ar y Rhaglen yn cefnogi’r farn hon: “Mae hwn yn newyddion cadarnhaol iawn; nid yn unig bod gennym lai o bobl ifanc yn y system cyfiawnder troseddol, ond bod hefyd lawer llai o unigolion wedi dioddef troseddau drwy law pobl ifanc ers 2007. Gwaith caled ein Swyddogion Heddlu Cymuned Ysgolion, Llywodraeth Cymru ac Ysgolion Cymru sydd wedi galluogi’r cyrhaeddiad gwych hwn. Mae’n hynod gadarnhaol bod y partneriaethau hyn gyda rhanddeiliaid allweddol wedi cael effaith mor real a chadarnhaol ar leihau ac atal troseddu ymysg pobl ifanc.”
Mae’r RhGCYCG yn cynnig cymorth adeiladol i ysgolion drwy amrywiaeth o ddulliau. Mae’r pwyslais ar ddarparu gwersi rhyngweithiol ynghylch camddefnyddio cyffuriau a sylweddau, ymddygiad cymdeithasol a diogelwch, gyda’r SHCY yn helpu plant i ystyried a meddwl am y materion pwysig hyn. O ganlyniad i’r mewnbwn hwn bydd disgyblion mewn sefyllfa well i ddeall canlyniadau eu gweithredoedd a gwneud dewisiadau gwybodus, cadarnhaol.
Meddai un disgybl Blwyddyn 9: “Gwnaeth y SHCY i mi deimlo’n rhan go iawn o’r wers a gwneud i mi feddwl am y ffordd yr ydw i’n bihafio.”
Yn ychwanegol, mae’r swyddogion yn neilltuo rhan o’u hamser ar gyfer plismona cefnogol mewn ysgolion, sy’n cynnwys rhoi cyngor i ddisgyblion, athrawon a rhieni yn ogystal â chefnogaeth gyda digwyddiadau ymddygiadol yn yr ysgolion.
Mae’r arweiniad ar gyfer y bartneriaeth hon wedi’i sefydlu yn y Protocol Trechu Trosedd Ysgolion, sy’n anelu at osgoi tynnu pobl ifanc i mewn i’r system cyfiawnder adferol a’u labelu’n ‘droseddwyr’ drwy wneud defnydd o arferion adferol. Mae’r ymyrraeth gynnar hon yn atal problemau rhag gwaethygu ac yn cynnig atebion cost effeithiol gan osgoi strategaethau hirdymor costus.
Meddai un pennaeth ysgol: “Dwi’n teimlo bod disgyblion yn manteisio ar gynnwys y rhaglen a’r perthnasau a sefydlwyd gyda’r SHCY. Mae’r rhaglen yn cyfrannu tuag at eu datblygiad cymdeithasol ac yn gwella eu lles. Mae’r SHCY wedi dod yn rhan annatod o fywyd ysgol ac mae’n rhywun y gallaf droi ato bob amser am gyngor ac arweiniad ychwanegol.”
Er mwyn ychwanegu at ddarpariaeth yr ymyrraeth gynnar, yr haf hwn gwelwyd lansiad datblygiad newydd cyffrous pan gafodd y Prosiect Cenedlaethol ‘Ysgogi ein Hieuenctid’ ei beilota gyda disgyblion Blwyddyn 8 ledled Cymru.
Arweiniwyd y prosiect cynhwysol hwn yn ystod misoedd yr haf gan y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid, y Gwasanaeth Ieuenctid, y Gwasanaeth Tân ac Achub, Ambiwlans Cymru, PG10 ac eraill. Darparodd gyfleoedd i ddisgyblion a ddynodwyd fel rhai sydd ar drothwy troseddu i ddatblygu sgiliau cymdeithasol allweddol a pherthnasau cadarnhaol drwy gymysgedd o weithgareddau adeiladu tîm a mewnbwn addysgol.
Meddai un disgybl ar ddiwedd yr wythnos: “Mi wnes i bethau dw i ddim fel arfer yn eu gwneud, mi wnes i ffrindiau newydd ac mi ges i fwy o hyder.” Meddai disgybl arall: “Ar ôl be ddywedodd yr Heddlu, byddaf yn meddwl mwy am be’ dw i’n ei wneud o hyn ymlaen.”
Gall addysg arwain at ddeilliannau cadarnhaol. Mae’r ffigyrau hyn yn awgrymu y gall addysg ataliol a strategaethau ymyrraeth gynnar gael effaith go iawn ar atal pobl ifanc a'u rhwystro rhag cael eu tynnu i mewn i’r System Cyfiawnder Troseddol, gyda hynny yn ei dro yn gwella eu cyfleoedd yn y dyfodol.
Mae gwybodaeth a chyngor 24 awr y dydd ar gyfer disgyblion, rhieni ac athrawon yn ogystal â rhagor o wybodaeth am y pynciau pwysig a drafodir fel rhan o'r Rhaglen ar gael drwy’r wefan ragweithiol: www.schoolbeat.org
Diwedd
Mae gan disgyblion, rhieni ac athrawon mynediad 24-awr i wybodaeth, cyngor a rhagor am bynciau pwysig a gorchuddiedig gan y raglen trwy'r wefan rhyngweithiol: www.schoolbeat.org
Awdurdod Heddlu | 2007 | 2008 | 2009 | 2010 | 2011 | 2012 | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Dyfed Powys | 845 | 765 | 704 | 531 | 440 | 445 | |
Gwent | 1355 | 1218 | 925 | 733 | 563 | 448 | |
Gogledd Cymru | 1234 | 1274 | 989 | 625 | 494 | 418 | |
De Cymru | 1996 | 1883 | 1708 | 1035 | 539 | 407 |
For further information, contact Jodie Humphries, communications officer: Jodie[at]schoolbeat[dot]org