Mae'n dda gan Raglen Gyswllt Craidd yr Heddlu i Ysgolion Cymru Gyfan gefnogi ymdrechion ein cydweithwyr elusengar yn yr NSPCC drwy ddod at ein gilydd i ddarparu fersiwn Gymraeg o fideos yr ymgyrch 'Share Aware', gan gyflwyno'r neges bwysig i gynulleidfa ehangach yng Nghymru.
Rydyn ni'n cyhoeddi'r fideos hyn ar gyfer Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2017. Maen nhw ar gael ar YouTube.
Mae'r fideos “Pwyllo Cyn Rhannu” yn dweud hanes dau unigolyn ifanc sy'n anfon negeseuon ar-lein: Alex a Lucy. Drwy ddilyn canlyniadau eu negeseuon, mae'r fideo'n cyflwyno rhai o'r peryglon sy'n gallu bod yn bresennol ar-lein. Mae'r fideos wedi'u hanelu at blant oed cynradd, a gall rhieni eu defnyddio i esbonio syniadau rhannu diogel ac anniogel â'u plant.