Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

Os byddwch yn gweld rhywbeth, dywedwch rywbeth!

Mae gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel a chael eu parchu yn ein cymunedau. Nid oes gan neb yr hawl i wneud i rywun deimlo'n anniogel neu ddangos diffyg parch tuag ato am unrhyw reswm. Mae cyfreithiau'n bodoli i ddiogelu pob un ohonom rhag cael ein cam-drin, ein haflonyddu a theimlo'n ofnus. Yn ogystal, o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, ceir naw nodwedd warchodedig:

  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • crefydd neu gred
  • cyfeiriadedd rhywiol
  • hil
  • oedran
  • priodas a phartneriaeth sifil
  • rhyw

Mae'n golygu na ellir trin y bobl hynny y mae ganddynt y gwahaniaethau hyn yn wahanol i bobl eraill o gwbl. Rhaid eu trin yn deg a heb ragfarn.

Trosedd casineb yw unrhyw drosedd a gaiff ei chymell gan gasineb neu anhoffter tuag at unigolyn arall, yn seiliedig ar ei nodweddion gwarchodedig. Gall troseddau casineb effeithio ar nifer o bobl gydag amrywiaeth o nodweddion gwarchodedig. Mae pobl ifanc o'r gymuned LGBTQ+ yn cael eu trin yn annheg ac yn anghyfreithlon yn seiliedig ar eu cyfeiriadedd rhywiol canfyddedig neu wirioneddol. Yn ôl Stonewall UK, dim ond un o bob pum trosedd casineb yn erbyn pobl lesbaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol (LGBT) y rhoddir gwybod i'r heddlu amdanynt.

Mae'r ystadegau'n dangos bod y rhan fwyaf o droseddau casineb yn erbyn pobl ifanc LGBT yn cael eu cyflawni gan bobl ifanc eraill. Felly, mae'n bwysig codi ymwybyddiaeth o'r hyn y gall pobl ifanc ei wneud mewn ymateb i ymddygiadau mor niweidiol. Os bydd unrhyw un yn gweld rhywbeth yn digwydd i unigolyn arall y mae'n ymddangos ei fod wedi'i gymell gan gasineb, dylem roi gwybod am ddigwyddiadau casineb o'r fath.

Yn ôl Stonewall, mae un o bob pum person LGBT wedi dioddef trosedd neu ddigwyddiad casineb oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol a/neu hunaniaeth o ran rhywedd yn ystod y 12 mis diwethaf.

Efallai na fydd llawer o bobl ifanc byth yn cyflawni trosedd casineb yn erbyn rhywun ar sail eu nodwedd warchodedig eu hunain, megis bod yn LGBT. Fodd bynnag, efallai y byddant yn gweld ymddygiad niweidiol neu droseddau o'r fath mewn ysgolion, neu yn y gymuned. Felly, mae'n bwysig peidio â chadw'n dawel am y digwyddiadau hyn, ac os byddant yn gweld rhywbeth, mae angen iddynt ddweud rhywbeth! Ap ar-lein yw Fearless sy'n galluogi pobl ifanc i roi gwybod am ddigwyddiadau neu droseddau casineb yn ddienw.

fearless.org/cy

Gyda'n gilydd, gall pawb wneud gwahaniaeth wrth sicrhau bod Cymru yn lle diogel a pharchus i bob un ohonom!