“Helo, fy enw i yw Cwnstabl Dylan Pritchard ac rwy’n Swyddog Heddlu Cymunedol Ysgolion yma yng Nghymru. Fy ngwaith i yw cadw plant a phobl ifainc yn ddiogel.
“Mae llawer o blant yn mwynhau cymryd a rhannu ffotograffau a fideos ar-lein. Mae’n bwysig fod plant yn aros yn ddiogel.
“Os ydych yn rhannu ffilmiau sydd wedi’u recordio ymlaen llaw neu’n ’falle yn darlledu’n fyw, plîs ystyriwch y canlynol:
“Ac yn olaf ac yn andros o bwysig:
“Er bod rhannu hun-lun noeth yn drosedd difrifol, cadw pobl ifainc yn ddiogel yw blaenoriaeth yr heddlu, a byddant yn helpu pobl ifainc sy’n chwilio am gymorth yn y sefyllfa hon.
“Os ydych chi’n adnabod rhywun sy’n difaru rhannu rhywbeth, dylai ofyn i’r derbynnydd ddileu’r ddelwedd yn syth. Os ydyw wedi cael ei phostio ar-lein, dylai adrodd am hyn wrth y wefan lle mae’r ddelwedd yn ymddangos. Gall y wefan ei dileu.
“Hefyd, medrwch gysylltu â’r Ganolfan Camfanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein, a elwir yn ‘CEOP’, sydd yno i’ch helpu ac nid eich barnu.
“Gellir adrodd am bryderon ynglŷn â cham-drin rhywiol a pharatoi at bwrpas rhyw twry CEOP ar-lein hefyd, drwy alw heibio i www.ceop.police.uk/safety-centre/. Gall y Ganolfan Camfanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein gynnig cymorth i bobl ifainc gan Ymgynghorydd Amddiffyn Plant arbenigol.
“Yma yn SchoolBeat, mae gennym lawer o adnoddau y gellir cael mynediad atynt ar ein gwefan, sef www.schoolbeat.cymru. Cymerwch olwg ar ein gweithgareddau sy’n cefnogi dysgu o gwmpas Diogelwch ar y Rhyngrwyd a phynciau eraill.
“Diolch am wrando ac os gwelwch chi’n dda, helpwch ein plant i aros yn ddiogel ar-lein.”