21 Hydref 2014
Mae Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan yn dathlu 10 mlynedd o fod yn rhaglen atal troseddau genedlaethol eleni. I ddathlu carreg filltir y Rhaglen, lansiwyd Adran newydd i Rieni ar wefan Schoolbeat.org i gyd-fynd ag Wythnos Ystyriol o Deuluoedd, sy'n cael ei chynnal rhwng 20-27 Hydref. I nodi lansiad yr adran newydd ac i ddathlu'r pen-blwydd yn ddeg oed, mae'r Rhaglen wedi gwahodd gwesteion yn cynnwys Prif Gwnstabl Cynorthwyol Lorraine Bottomley, sy’n arweinydd rhaglen RhGCYCG, a ymgeiswyr yn ddiweddar X Factor y brodyr Brooks, a ganodd cân, i ymuno â nhw i Ysgol Wirfoddol a Reolir Treftadaeth Blaenafon yn Nhorfaen ar 23 Hydref.
Mae'r Rhaglen yn targedu disgyblion 5-16 oed a chaiff ei chydnabod yn enghraifft o arfer gorau mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol. Mae'n enghraifft o gydweithio unigryw rhwng Llywodraeth Cymru a phedwar Gwasanaeth Heddlu Cymru gan ddarparu gwersi o amgylch y themâu canlynol:- Cyffuriau a Chamddefnyddio Sylweddau; Ymddygiad Cymdeithasol a Diogelwch Cymunedol a Phersonol.
Cyn y lansiad, dywedodd Mrs Linda Roberts, Cydlynydd Cenedlaethol y Rhaglen:
“Dwi'n falch iawn o'r gwaith a wnaed gan Swyddogion Cymuned Ysgol yr Heddlu sy'n darparu gwersi'r Rhaglen ac sy'n cefnogi pob ysgol yng Nghymru. Mae'n gamp wirioneddol a fydd yn sicrhau manteision i'n cymunedau yn y dyfodol.”
Mae'r Adran i Rieni ar y wefan yn ychwanegol at yr adrannau presennol i ddisgyblion ac athrawon. Bwriad yr wybodaeth a ddarparwyd yw rhoi'r cyfle i rieni ddysgu am y Rhaglen, yr hyn a allai effeithio ar eu plant a'r Gyfraith, yn ogystal â chynnig cyngor a chyfeirio i asiantaethau arbenigol eraill.
Yn y lansiad, dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Lorraine Bottomley:
“Mae llawer o beryglon maes yna ar-lein a mae’r cyfryngau yn dweud wrth rhieni yn aml am beth y dylwn nhw cynghori eu plant. Rydw i’n siŵr bod rhieni yn gwerthfawrogi hynna, ond yn aml dydynt nhw’n gwybod beth i wneud. Rydw i’n meddwl bod yr adran rhieni gwefan hon yn rhoi awgrymiadau i rieni am beth cyngor i roi i’u plant yn seiliedig ar yr addysg a gafodd y plant yn ystod eu gwersi RhGCYCG.”
Dywedodd un rhiant a gafodd ragolwg ar yr adran newydd cyn ei lansiad:
“Roeddwn i wedi synnu ar ansawdd yr wybodaeth a welais am gynifer o bynciau. Mae'r wefan yn siop un stop sy'n darparu llawer iawn o wybodaeth ddiweddar a dibynadwy a fydd yn help o ran pynciau sy'n ymwneud â fy mhant fel cyffuriau, bwlio a diogelwch.”
Dros y 10 mlynedd diwethaf mae'r Rhaglen wedi tyfu a datblygu ac mae wedi cyflawni cryn broffesiynoldeb. Mae lansio'r Adran i Rieni ar y wefan yn nodi bod darpariaeth unigryw arall wedi'i chwblhau ar gyfer pobl Cymru. Crynhodd Mrs Linda Roberts trwy ddweud:
“Mae'r camau cyntaf a gymerwyd yn 2004 i ddarparu gwersi mewn ysgolion wedi arwain at Raglen Genedlaethol sydd bellach yn cefnogi ysgolion mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae popeth wedi bod yn bosibl oherwydd y gefnogaeth a roddwyd i ni gan ein partneriaid. Mae'r Heddlu, Addysg a Llywodraeth Cymru wedi galluogi miloedd o bobl ifanc i ddysgu am wneud dewisiadau gwybodus a chadarnhaol ar gyfer eu dyfodol. Rwy'n gobeithio y bydd datblygiad parhaus y wefan yn hwyluso hyn ymhellach.”
DIWEDD
FFOTOGRAFFAU
Mae’r llyniau canlynol yn cefnogi’r datganiad hwn. Mae llyniau ar gael am
https://www.schoolbeat.org/en/news/programme-celebrates-ten-years/
NODIADAU I'R GOLYGYDDION
Cyflwynwyd Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a phedwar Gwasanaeth Heddlu Cymru, ar draws Cymru ym mis Medi 2004. Mae'r Rhaglen yn targedu disgyblion rhwng pump ac 16 oed ac yn ystod blwyddyn ysgol 2013/14 ymgysylltodd â 99.7% o'r ysgolion yng Nghymru.
Ffocws Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan yw helpu i atal troseddau a hyrwyddo dinasyddiaeth bositif trwy gynnal gwersi o amgylch tair prif thema: cyffuriau a chamddefnyddio sylweddau, diogelwch ac ymddygiad cymdeithasol a chymuned.
Mae gan ddisgyblion, rhieni ac athrawon fynediad 24 awr i wybodaeth, cyngor a rhagor ynghylch y pynciau pwysig sy'n cael eu cynnwys yn y Rhaglen trwy'r wefan ryngweithiol: www.schoolbeat.org
Mae Wythnos Ystyriol o Deuluoedd (Wythnos Rhieni gynt) yn wythnos ymwybyddiaeth genedlaethol sy'n cael ei chynnal gan y Family and Childcare Trust. Bwriad yr wythnos yw cynyddu cydnabyddiaeth o'r materion a wynebir gan deuluoedd ar hyd a lled y wlad, ond hefyd dathlu'r cyfraniad hanfodol a wneir gan deuluoedd i gymdeithas.
CYSWLLT
I gael rhagor o fanylion, cyswlltwch â jodie[at]schoolbeat[dot]org