Eleni, cynhelir Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ar y 9fed o Chwefror a'r thema yw Chwaraewch eich rhan i wella'r rhyngrwyd!
Cydlynir y diwrnod yn y DU gan UK Safer Internet Centre - partneriaeth o dair elusen flaenllaw; Childnet, South West Grid for Learning a Sefydliad Gwylio'r Rhyngrwyd. Mae'r dathliad yn gweld cannoedd o sefydliadau yn cymryd rhan i helpu hyrwyddo defnydd diogel, cyfrifol a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol ar gyfer plant a phobl ifanc.
UK Safer Internet Centre – Dangoswch eich cefnogaeth tuag at Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel â'r hashnod #SID2016
Am ragor o wybodaeth, galwch heibio i www.saferinternet.org.uk
Bydd ein Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgolion yn dangos eu cefnogaeth tuag at Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel trwy gyflwyno gwersi diogelwch y rhyngrwyd mewn ysgolion ar draws Cymru.
Mae ein tudalennau disgyblion yn galluogi disgyblion i gael mwy o wybodaeth ar y gwersi a ddarperir gan eu Swyddog Cyswllt Ysgolion lleol. Mae’r tudalennau yn galluogi disgyblion i ddysgu mwy, chwarae gemau ac ymchwilio i le y gallant gael mwy o wybodaeth ar gadw’n ddiogel ar-lein, defnyddio ffonau symudol a seiberfwlio.
yn cynnwys y gêm Cadw’n SMART
Cofiwch fod Click CEOP yno bob amser os byddwch yn teimlo mewn perygl ar-lein!
ThinkUKnow – mae ThinkUKnow yn adnodd rhagorol sy’n darparu cymorth a chyngor i ysgolion, athrawon a gweithwyr ieuenctid. Mae hefyd yn cynnwys adnoddau seiliedig ar oedran er mwyn helpu plant a phobl ifanc i gadw’n ddiogel ar-lein.
MEIC – MEIC yw’r llinell gymorth ar gyfer pobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Mae MEIC yn credu bod gan bob plentyn ac unigolyn ifanc yr hawl i gael mynegi eu safbwyntiau, dymuniadau a theimladau.
WiseKids – mae WISE KIDS yn hyrwyddo arloesedd, defnydd cadarnhaol a diogel o’r rhyngrwyd drwy’r ddarpariaeth o raglenni hyfforddiant arloesol, datblygiad ymgynghori ac adnoddau ym meysydd Llythrennedd Digidol, Dinasyddiaeth Ddigidol, Cyfranogiad Digidol a Diogelwch Ar-lein.
Mae diogelwch ar y rhyngrwyd yn ffurfio rhan o edefyn diogelwch Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan. Mae gwersi ar ddiogelwch y rhyngrwyd yn dechrau o CA2 lle mae ein ffrind Tarian yn helpu plant i ddeall sut i gadw’n ddiogel gyda’r wers ‘Cadw’n SMART’ ac yn parhau drwy’r ysgol gynradd ac i’r ysgol uwchradd.
Y llynedd, lansiodd yr NSPCC ymgyrch newydd, sef 'Be Share Aware'. Fel rhan o'r ymgyrch, cynhyrchwyd ffilm o'r enw 'Have you seen Alex's Willy?' sy'n anelu i helpu rhieni i ddysgu eu plant i fod yn ddiogel ar-lein.
Yn dilyn ymgyrch ‘Share Aware’ yr NSPCC, gwelwyd:
Yn ogystal, mae gan yr NSPCC wefan Net Aware sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i rieni am rwydweithiau cymdeithasol, apiau a gemau.