Wythnos Gwrth-Fwlio 2015

Cynhelir wythnos gwrth-fwlio eleni o 16–20 Tachwedd a thema Llywodraeth Cymru yw ‘Mae bwlio yn fusnes pawb’. Dangoswch eich cefnogaeth tuag at wythnos gwrth-fwlio trwy ddefnyddio’r hashnod #wythnosgwrthfwlio.

 

Mae pawb yn gwybod bod bwlio’n digwydd ym mhob ysgol i ryw raddau. Yn anffodus, bydd nifer bychan o bobl ifainc bob amser sydd eisiau erlid neu fwlio unigolyn arall, ond byddwn ni’n parhau i addysgu er mwyn brwydro yn erbyn bwlio.

 

Gall bwlio ddigwydd ar sawl ffurf, ond y tri phrif fath yw:

  • corfforol – bwrw, cicio, mynd ag eiddo, aflonyddu rhywiol neu drais
  • geiriol – galw enwau, sarhau, gwneud sylwadau tramgwyddus
  • anuniongyrchol - lledaenu straeon cas am rywun, eithrio o grwpiau cymdeithasol, gwneud rhywun yn destun sibrydion maleisus, afon e-byst neu negeseuon testun maleisus ar ffôn symudol.

 

Darganfyddwch mwy am wythnos gwrth-fwlio gan Lywodraeth Cymru.

Poster Wythnos Gwrth-fwlio

Cyngor a Chymorth

Am gymorth a chyngor, galwch heibio i: 

  • MEICmeiccymru.org/
  • Galwch – 080880 23456
  • Neges Destun – 84001 
  • Galwch – 0800 1111
  • Galwch heibio i wefan Cymru Ifanc; gwrando arnoch yw’r nod, a rhoi pŵer i’ch llais. Cymerwch ran a rhannwch eich barn â Llywodraeth Cymru -www.cymruifanc.cymru/
  • Siaradwch â’ch rhieni, athro, cynghorydd ysgol, nyrs neu Swyddog Heddlu Cymunedol Ysgolion; byddant yn medru helpu i roi stop ar y bwlio. 

 

 

Wyt Ti'n Cael Dy Fwlio?

File link icon for Wyt_ti_n_cael_dy_fwlio_01.pdfWyt_ti_n_cael_dy_fwlio.pdf

Ar gyfer Disgyblion

Gweithgareddau "Cerrig a Ffyn"
Gweithgareddau "Torri’r Cylch"

Gall disgyblion ddysgu mwy ar ein tudalennau gweithgareddau: 

Ar gyfer Athrawon

  • Mae gennym ddeunyddiau gwrth-fwlio ar gyfer eu defnyddio mewn ysgolion.
  • Cysylltwch â’ch Swyddog Heddlu Cymunedol Ysgolion i ofyn am wers neu wasanaeth ynghylch gwrth-fwlio yn eich ysgol. 
  • Lawrlwythwch adnoddau oddiar Plant yng Nghymru fel cymorth tuag at #sayno a #bullyingmustgo
  • Ymunwch â Thunderclap #sayno #bullyingmustgo Plant yng Nghymru er mwyn dangos eich cefnogaeth ar gyfer wythnos gwrth-fwlio

Welsh Gov / Meic Posters

File link icon for 151104-poster-1.pdf151104-poster-1.pdf
File link icon for 151104-poster-2.pdf151104-poster-2.pdf

Ar gyfer Rhieni

Mae bwlio’n fater allweddol ar gyfer Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan:

Gwyliwch gyfweliadau gyda’n Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgolion:

Gwyliwch y cyfweliad a’r Swyddog Heddlu Cymunedol Ysgolion PC John-Paul Rowlands-Ralph.

Gwyliwch y cyfweliad a’r Swyddog Heddlu Cymunedol Ysgolion PC Brian Jones