Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

Gwrth-fwlio – Un Gair Caredig

Mae’r Wythnos Gwrth-fwlio yn cael ei chydlynu yng Nghymru a Lloegr gan y Anti Bullying Alliance. Eleni mae’n digwydd rhwng 15 a 19 Tachwedd 2021 ac mae ganddi’r thema Un Gair Caredig.

Bydd yr wythnos yn dechrau gyda Diwrnod Sanau Od sy’n cael ei gefnogi gan CBBC a seren CBeebies Andy Day a’i fand ‘Andy a’r Odd Socks’.
Mae Rhaglen Ysgolion Heddlu Cymru, mewn partneriaeth ag ysgolion, yn hyrwyddo pwysigrwydd caredigrwydd drwy gydol yr wythnos hon.

Mae’r wythnos hon hefyd yn gyfle gwych i deuluoedd gael sgyrsiau am y pwnc pwysig hwn. Bydd ysgolion yn codi ymwybyddiaeth gyda phlant o bwysigrwydd parchu amrywiaeth, dangos caredigrwydd at eraill a chyfeirio plant a phobl ifanc at bwy all helpu, os ydynt yn ymwybodol o unrhyw ymddygiad sy’n digwydd i un arall nad yw’n garedig, ac a allai fod yn fwlio.

Mae’n bwysig i rieni wirio’n rheolaidd gyda’u plant ar sut maent yn gwneud yn gymdeithasol, yn ogystal ag yn academaidd yn yr ysgol. I ddarganfod hefyd a yw eu plentyn yn dyst i unrhyw ymddygiadau bwlio ac os felly a ydynt yn gwybod beth i’w wneud.

Yn aml pan ofynnir i blant sut yr aeth eu diwrnod, maent yn ymateb gyda, “Iawn”.

Mae cael plant i siarad am eu profiadau a’u hemosiynau yn bwysig iawn, gan ei fod yn eu helpu i reoli’r pethau sy’n digwydd yn eu bywyd ac yn adeiladu eu gwydnwch.

Sut i gael eich plentyn i siarad yn fwy agored â chi am eu meddyliau a’u teimladau?

Dyma sgwrs dda i ddechrau cael plentyn i siarad am eu teimladau.

  • Beth oedd eich hoff ran am yr ysgol heddiw?
  • Beth wnaethoch chi ei fwynhau fwyaf yn yr ysgol heddiw?
  • Beth ddaru chi’n ei fwynhau o leiaf yn yr ysgol heddiw?
  • Pe gallech ail greu moment o’r ysgol eto heddiw, beth fyddai hynny?
  • Pe gallech chi anwybyddu unrhyw ran o’r diwrnod ysgol heddiw beth fyddai hynny?
  • Beth oedd y peth mwyaf doniol a ddigwyddodd yn eich dosbarth heddiw?
  • Beth ddigwyddodd heddiw yn yr ysgol a wnaeth i chi deimlo’n drist, yn bryderus neu’n anhapus?
  • Beth ddigwyddodd yn yr ysgol heddiw a wnaeth i chi wenu?
  • Beth oedd y peth mwyaf diddorol a glywsoch yn yr ysgol heddiw?
  • Pe gallech newid dim ond UN peth am yr ysgol, beth fyddai hynny?
  • Pa 3 gair fyddech chi’n eu defnyddio i ddisgrifio eich ffrind gorau yn yr ysgol?
  • Pa 3 gair fyddech chi’n eu defnyddio i ddisgrifio amser egwyl?
  • Pan es i i’r ysgol roedd rhai plant oedd yn angharedig, neu’n gas, ydych chi wedi sylwi ar unrhyw beth felly yn eich ysgol chi? Os felly, beth ydych chi wedi’i weld?
  • A wnaethoch chi sylwi bod unrhyw un heddiw’n cael ei adael allan? Sut ydych chi’n meddwl bod hyn yn gwneud iddyn nhw deimlo? Allwch chi feddwl am unrhyw beth y gallech chi ei wneud i helpu?

What if your child says they are being bullied?

1.     Yn bwysicaf oll, gwrandewch ar eich plentyn yn agored ac yn dawel. Canolbwyntiwch ar wneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu clywed a’u cefnogi, yn hytrach na cheisio dod o hyd i achos y bwlio neu geisio datrys y broblem.

2.     Dywedwch wrth y plentyn eich bod yn eu credu; eich bod yn falch eu bod wedi dweud wrthych. Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod nad eu bai nhw ydyw ac y gwnewch eich gorau i ddod o hyd i help.

3.     Siaradwch â’r athro neu’r ysgol. Nid oes rhaid i chi a’ch plentyn wynebu bwlio ar eich pen eich hun. Gofynnwch am gael gweld polisi bwlio neu gôd ymddygiad eich ysgol. Gall hyn fod yn berthnasol i fwlio wyneb yn wyneb a bwlio ar-lein.

4.     Gweithiwch gyda’ch ysgol i ddatrys y bwlio, dilyn yr holl gamau fel siarad â’r Pennaeth neu Lywodraethwr, neu os oes angen, i Adran Addysg yr Awdurdod Lleol.

5.     Gallwch siarad â Swyddog Heddlu’r Ysgol a fydd yn helpu.

6.     Byddwch yn system gymorth. I’ch plentyn, mae cael rhiant cefnogol yn hanfodol i ddelio ag effeithiau bwlio. Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod y gallant siarad â chi ar unrhyw adeg a rhoi sicrwydd iddynt y bydd pethau’n gwella.

Beth os yw eich plentyn yn arddangos ymddygiad bwlio?

1.     Cyfathrebwch. Bydd deall pam fod eich plentyn yn gweithredu fel hyn yn eich helpu i wybod sut i’w helpu. Ydyn nhw’n teimlo’n ansicr yn yr ysgol? Ydyn nhw’n ymladd gyda ffrind neu frawd neu chwaer? Ydyn nhw’n poeni am rywbeth? Os ydynt yn cael trafferth esbonio eu hymddygiad, gallwch ddewis ymgynghori â chwnselydd ysgol, gweithiwr cymdeithasol, neu weithiwr iechyd meddwl proffesiynol sydd wedi’i hyfforddi i weithio gyda phlant.

2.     Gweithiwch drwy ffyrdd iach o ymdopi. Gofynnwch i’ch plentyn egluro senario a oedd yn eu rhwystro ac yn cynnig ffyrdd adeiladol o ymateb. Defnyddiwch yr ymarfer hwn i syniadau senarios posibl yn y dyfodol ac ymatebion nad ydynt yn niweidiol. Anogwch eich plentyn i ‘roi ei hun yn esgidiau’r plentyn arall’ drwy ddychmygu profiad y person sy’n cael ei fwlio. Atgoffwch eich plentyn bod sylwadau a wnaed ar-lein yn dal i frifo yn y byd go iawn. Gall cynnwys eich Swyddog Heddlu Ysgol lle bo angen helpu, gan eu bod wedi’u hyfforddi i helpu plant i adfer niwed y gallent fod wedi’i achosi, drwy ddulliau adferol.

3.     Meddyliwch beth sy’n digwydd gartref. Gall plant sy’n dangos ymddygiadau bwlio fod yn ymateb i’r hyn y maent yn ei weld yn eu hamgylchedd. A ydynt yn agored i ymddygiad corfforol neu emosiynol niweidiol? Edrychwch i mewn, a meddyliwch yn onest am sut mae eich plentyn yn profi’r byd.

4.     Rhowch gyfleoedd i wneud newidiadau. Os cewch wybod bod eich plentyn wedi bod yn bwlio, mae’n bwysig ymateb gyda chanlyniadau priodol, di-drais. Gallai hyn fod yn cyfyngu ar eu gweithgareddau, yn enwedig y rhai lle gallai bwlio ddigwydd (grwpiau cymdeithasol, amser sgrin/cyfryngau cymdeithasol). Anogwch eich plentyn i ymddiheuro i’w cyfoedion a dod o hyd i ffyrdd iddynt fod yn fwy cynhwysol yn y dyfodol. Ymarfer bod yn garedig.

Mae llyfr gweithgareddau defnyddiol iawn wedi’i anelu at ddisgyblion CA3 sy’n archwilio bwlio a throseddau casineb. Gellir ei lawrlwytho yma:

https://schoolbeat.cymru/uploads/media/SchoolBeat_Llyfr_Gweithgareddau_11-14.pdf

https://schoolbeat.cymru/uploads/media/SchoolBeat_Activity_Book_11-14.pdf

Os yw plant yn dyst i unrhyw ymddygiad y gellid ei ddisgrifio fel digwyddiad casineb y tu allan i’r ysgol, gallant roi gwybod am ddigwyddiadau o’r fath drwy’r App Fearless. Mae hyn yn gwbl ddienw https://www.fearless.org/cy    https://www.fearless.org/en

Mae gan Lywodraeth Cymru lawer o gyngor defnyddiol: a-yw-eich-plentyn-yn-cael-ei-fwlio.pdf (llyw.cymru)

Mae mwy o wybodaeth i rieni yn adran ein rhieni o amgylch y thema hon. Cliciwch ar fotwm y rhiant ar y bar dewislen uchod.