Mae Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru a’r pedwar Heddlu yng Nghymru’n codi ymwybyddiaeth ynghylch Sylweddau Seicoweithredol Newydd (SSN) gydag wythnos ymwybyddiaeth yn cael ei chynnal rhwng 30 Tachwedd a 4 Rhagfyr.
Mae Sylweddau Seicoweithredol Newydd, neu gyffuriau penfeddwol cyfreithlon, yn broblem gyffredin ledled y Deyrnas Unedig ers sawl blwyddyn bellach. Mewn ymateb i boblogrwydd cynyddol y sylweddau hyn, mae’r Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan wedi datblygu gwers ar gyfer helpu pobl ifainc i ddeall peryglon Sylweddau Seicoweithredol Newydd. Cynigir y wers newydd Cyfnod Allweddol 3, ‘Newydd a Niweidiol’, i ysgolion uwchradd ledled Cymru er mwyn tynnu sylw at beryglon arbrofi â Sylweddau Seicoweithredol Newydd.
Er mwyn cynnal y wers ‘Newydd a Niweidiol’, mae’r Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan yn lansio ymgyrch cyfryngau cymdeithasol sy’n cynnwys chwe phoster i annog rhieni ac athrawon i adnabod peryglon Sylweddau Seicoweithredol newydd a helpu i addysgu plant trwy agor trafodaeth am beryglon a chanlyniadau cymryd Sylweddau Seicoweithredol Newydd.
Bydd yr ymgyrch cyfryngau cymdeithasol yn arwain â’r datganiadau canlynol sy’n cyd-fynd â’r posteri:
Caiff poster ei ryddhau ar 10 o'r gloch bob dydd gan Twitter, Facebook ac Instagram. Yn ogystal ar ddydd Gwener bydd poster i'w ryddhau ar 2 o'r gloch.
Dywedodd Dirprwy Weinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething: “Mae’n dda iawn gennyf gefnogi’r ymgyrch ymwybyddiaeth newydd hon. Rydyn ni’n trin y mater o bobl yn cymryd sylweddau seicoweithredol newydd – cyffuriau penfeddwol cyfreithlon – o ddifrif. Rydyn ni’n cefnogi amrediad o fentrau i godi ymwybyddiaeth, gan gynnwys DAN 24/7, ein llinell gymorth cam-drin sylweddau ddwyieithog.
“Rydyn ni wedi sicrhau bod y Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan, sy’n gweithredu mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru, yn cael ei diweddaru’n rheolaidd er mwyn cynnwys gwersi penodol am sylweddau seicoweithredol newydd oherwydd eu heffaith posibl ar blant a phobl ifainc.
“Rwyf wedi cefnogi cynnig Llywodraeth y DU i gyflwyno gwaharddiad blanced ar bob sylwedd seicoweithredol newydd. Fodd bynnag, ni fydd gwahardd y sylweddau hyn yn gweithio ar ben ei hun – rydyn ni wedi cyflwyno nifer o gamau gweithredu ar gyfer addysgu, codi ymwybyddiaeth a gwella ein gallu i ymateb i sylweddau seicoweithredol newydd sy’n dod i’r amlwg.”
Mae'r posteri newydd yn cael eu cefnogi a'u hariannu gan Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Gwent, Ian Johnston.
Dywedodd Mr Johnston: "Rwy'n gobeithio y bydd y posteri hyn yn chwarae rhan bwysig o ran codi ymwybyddiaeth am beryglon camddefnyddio y sylweddau yma ymysg plant a phobl ifanc yr ysgol. Rydym eisiau llai o ddioddefwyr troseddau ac i ddiogelu pobl rhag niwed difrifol a dyna pam yr wyf yn cefnogi ac wedi darparu cyllid ar gyfer y prosiect hwn.
Mae Sylweddau Seicoweithredol Newydd yn fygythiad difrifol i iechyd a diogelwch pobl yn ein cymunedau. Rydym am anfon y neges gliriaf posibl y gall y sylweddau hyn fod yn beryglus i iechyd pobl - hyd yn oed yn angheuol. Mae'r posteri hyn yn anelu at helpu pobl ifanc i wneud y dewisiadau iawn os a phan ddaw'r amser y maent yn cael cynnig y sylweddau hyn."
Dywedodd Cydlynydd Cenedlaethol y Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan, Faith McCready: “Rydyn ni’n gobeithio y bydd ymgyrch Sylweddau Seicoweithredol Newydd Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan yn codi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r peryglon sy’n gysylltiedig â defnyddio SSN. Mae pob poster yn cyflwyno neges allweddol mewn ffordd arloesol ac fe’u lluniwyd i wneud pobl ifainc i feddwl am ganlyniadau posibl cymryd y sylweddau hynny sydd heb eu rheoleiddio. Rydyn ni’n teimlo ei bod hi’n hollbwysig bod pobl ifainc yn cael gwybodaeth gywir fel eu bod nhw’n medru gwneud penderfyniadau gwybodus.”
Trwy gydol yr wythnos, bydd Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgolion yn cefnogi’r wythnos ymwybyddiaeth trwy gyflwyno’r wers Cyfnod Allweddol 3 ‘Newydd a Niweidiol’ i ddisgyblion ledled Cymru.
Dilynwch yr ymgyrch ar Twitter @schoolbeat a dangoswch eich cefnogaeth trwy ddefnyddio’r hashnod #SSNHysbys a phostio llun gyda’n bwrdd ymgyrch.