Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol, mae Alcohol Concern yn galw ar awdurdodau lleol a sefydliadau eraill, o fferyllfeydd i ddarparwyr gwasanaethau triniaeth, i gymryd rhan mewn codi ymwybyddiaeth ynghylch materion sy’n gysylltiedig ag alcohol a’r effaith ar gymunedau a’n hiechyd. Eleni, y thema ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol fydd ‘effaith alcohol ar iechyd a chymdeithas’.
Am ragor o wybodaeth, galwch heibio i www.alcoholconcern.org.uk
Dangoswch eich cefnogaeth trwy ddefnyddio’r hashnod #AAW15
'Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed' yw cynllun 10 mlynedd Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael a’r problemau a achosir gan gyffuriau ac alcohol yng Nghymru. Cyhoeddwyd y cynllun yn 2008, ac mae’n nodi rhaglen genedlaethol glir ar gyfer mynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau a lleihau’r niwed hwnnw. Mae’r cynllun wedi’i strwythuro o gwmpas 4 maes gweithredu:
Am gymorth a chyngor, galwch heibio i:
Siaradwch â’ch rhieni, athro, cynghorydd ysgol, nyrs neu Swyddog Heddlu Cymunedol Ysgolion; maen nhw yno i wrando arnoch.
Gall disgyblion ddysgu mwy ar ein tudalennau gweithgareddau:
Gan fod rhan o’n harian yn dod trwy ‘Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed’ Llywodraeth Cymru, mae addysgu ynghylch peryglon alcohol yn ffurfio rhan fawr o’n rhaglen graidd trwy’r llinyn camddefnyddio sylweddau a chyffuriau.