Diwrnod Ymwybyddiaeth Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant 2018

Diwrnod Ymwybyddiaeth Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant yn galw ar bob ran y llywodraeth a chymdeithas i gydweithio i sylwi, adrodd, ac atal y camfantais ar blant yn rhywiol.

Tri Phwynt Allweddol i Bawb Ar-Lein

  • Cofiwch fod yn ofalus pan yn rhannu pethau ar-lein
  • Mae'n bosib i rywun ar-lein ddweud celwyddau am y math o berson ydynt
  • Os yw rhywun yn dweud rhywbeth sy’n gwneud i chdi deimlo’n annifyr, siarad ag oedolyn rwyt yn ymddiried ynddo

Cyngor i Ddefnyddwyr Cyfryngau Cymdeithasol

  • Os wyt yn gyrru llun ar-lein rwyt yn colli rheolaeth ohono: mae’n bosib y caiff ei yrru a’i rannu ymlaen
  • Dim ond pethau rwyt yn barod i ddangos i bawb ddylid ei rannu ar-lein
  • Os yw rhywun ar-lein yn dy fygwth neu yn gofyn am rhywbeth sy’n gwneud i chi deimlo’n annifyr, siarad ag oedolyn dibynadwy

Angen Cyngor?

  • Siarad â MEIC, gwasanaeth cyngor i bobl ifanc yng Nghymru
  • Ffonio am ddim 08 08 80 23456
  • Tecstio 84001
  • Siarad ar-lein ar meiccymru.org
  • Ffonio Childline am ddim ar 0800 1111
  • Clicio ar fotwm Click CEOP
    ar lot o wefannau

Cyngor i Rieni

  • Siaradwch yn aml a’ch plant am eu sgyrsiau ar-lein
  • Gwnewch yn siwr fod eich plentyn yn defnyddio dim ond gwefannau addas i’w hoedran
  • Gwnewch yn siwr bod oedran eich plentyn wedi’i gofnodi’n gywir – peidiwch â gadael iddynt honni eu bod yn hŷn
  • Gallwch adrodd am eich pryderon yn ddienw i Crimestoppers ar 0800 555 111

Cyngor i Athrawon

File link icon for Sut-fedrwch-chi-ddiogelu-plant-rhag-secstio.pdfSut fedrwch chi ddiogelu plant rhag secstio
Diogelu Diogelwch Rhyngrwyd
Year 2 – Hafan Ddiogel
Year 4 – Ffrind neu Elyn Targedu
Year 9 – Twyll Peryglus Hanfodol
Year 10 – Na Yw Na Hanfodol
Year 11 – Hawliau a Chyfrifoldebau
Year 3 – Cadw’n SMART Targedu
Year 6 – Byddwch yn Seiber Ddiogel Targedu
Year 7 – Pictiwr Peryg Targedu
Year 9 – Edrychwch Pwy sy’n Siarad Targedu