Eleni yng Nghymru, mae’r Heddlu a’r Gwasanaeth Tân yn lansio’u Hymgyrch Ddiogelwch Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt flynyddol.
Byddwn yn gofyn i bawb feddwl am y ffordd y mae nhw yn dathlu Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt.
Mae ein negeseuon ynghylch eich annog chi i barchu eich gilydd, diogelu’r gwasanaethau brys, a mwynhau’n ddiogel.
Mae cadw’n ddiogel a pheidio â rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau brys yn bwysig.
Dyma rai adnoddau i'ch helpu chi i ddathlu'n ddiogel.