SchoolBeat.cymru
ac Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost

Diwrnod Cofio’r Holocost

Amrywiaeth a Hiliaeth

Ynglŷn â’r Gwasanaethau

Rydym yn falch o gynnig yr adnoddau hwn o'r Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost yn ddwyieithog i ysgolion Cymru, a gobeithiwn y byddant yn eich ysgogi ac yn eich ysbrydoli.

Bob blwyddyn, mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost yn dewis thema wahanol i alluogi pobl i ddysgu rhywbeth newydd am y gorffennol, drwy gyfrwng gweithgareddau diddorol.

Mae pob adnodd yn berthnasol i'r Holocost, Erledigaeth y Natsïaid ac i hil-laddiadau dilynol, ac yn ganolog iddo mae straeon bywyd y rhai a gafodd eu llofruddio a'r rhai a oroesodd – yn ogystal â phrofiadau gwrthwynebwyr, achubwyr a thystion.

Cydweithio ag Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost

Y 27ain o Ionawr yw Diwrnod Cofio'r Holocost. Rydym wedi dewis yr adnoddau canlynol i'w defnyddio yng Nghyfnod Allweddol 2 – Stori Anne Frank a Chyfnodau Allweddol 3, 4 a 5 – Stori Henry Wermuth.

Cewch adnoddau pellach gan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost yn hmd.org.uk/content/for-educators

Diwrnod Cofio’r Holocost 2024: “Bregusrwydd Rhyddid”

Os ydym i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i atal gwahaniaethu a rhagfarn, yna gobeithiwn y bydd pob hil-laddiad yn dod i ben.

Diwrnod-Cofio-Holocost-2024 (PPTX)

Mae’r adnoddau Diwrnod Cofio’r Holocost ar gyfer Swyddogion Heddlu Ysgolion, athrawon a phartneriaid i’w defnyddio i gofio’r diwrnod arwyddocaol hwn.

Gwasanaeth CA2: Stori Anne Frank

Anne Frank
Anne Frank – Pan oedd yn 15 oed, cafodd ei llofruddio yn yr Holocost ar ôl byw yn guddiedig gyda'i theulu yn Amsterdam. Cadwodd ddyddiadur drwy gydol yr amser hwnnw ac mae'n un o'r llyfrau sy'n gwerthu orau yn rhyngwladol.

Mae'r gwasanaeth hwn yn tywys myfyrwyr drwy stori Anne Frank a'i theulu. Mae'n ystyried grym ei geiriau i'n haddysgu am brofiadau Iddewon o dan reolaeth y Natsïaid, a'n hysbrydoli i ddefnyddio ein geiriau ein hunain i wrthsefyll rhagfarn heddiw.

Gwasanaeth CA3/4/5: Stori Henry Wermuth

Henry Wermuth

Deg Cam Hil-laddiad-POSTER (PDF)
Diwrnod Cofio Holocost - Gwasanaeth Uwchradd (PPSX)
Diwrnod Cofio Holocost - Nodiadau Gwasanaeth Uwchradd (PDF)